Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 377/2024
Cais 1:
A ydyw adran yr heddlu yn darparu hyfforddiant ar droseddau casineb ar gyfer ei swyddogion?
Os ydyw, a gynhelir yr hyfforddiant ar-lein neu wyneb yn wyneb?
Cais 2:
A ydyw adran yr heddlu yn darparu hyfforddiant penodol ar gyfer ei swyddogion ar droseddau casineb sy’n ymwneud ag anabledd?
Os ydyw, a gynhelir yr hyfforddiant ar-lein neu wyneb yn wyneb?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn darparu hyfforddiant ar droseddau casineb i bob swyddog yr heddlu, ac i bob swyddog cefnogi cymunedol yr heddlu a chwnstabliaid gwirfoddol.
Wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Cynhelir y cyrsiau hyfforddi cychwynnol wyneb yn wyneb a’r cyrsiau gloywi ar-lein.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Fel rhan o’r hyfforddiant ar droseddau casineb rydym yn edrych ar bob un o’r pum llinyn sy’n cael eu monitro, ac anabledd yw un ohonynt.
Cyflwynir hyn wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae swyddogion dan hyfforddiant hefyd yn cael mewnbwn gan wasanaeth cymorth ac eirioli anabledd lleol ynghylch casineb ac effeithiau troseddau casineb ar bobl sy’n byw ag anableddau a sut y gall swyddogion eu cefnogi.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 17 Ebrill 2024)