Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 587/2023
Cais:
1) Cyfanswm y bobl â chyfeiriad yn Lloegr y rhoddwyd hysbysiadau cosb penodedig coronafeirws iddynt gan Heddlu Dyfed–Powys.
2) Nifer y bobl sydd â chyfeiriad yn Lloegr y rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig coronafeirws iddynt gan Heddlu Dyfed–Powys am dorri’r cyfyngiad na chaiff unrhyw un sy’n byw y tu allan i Gymru ddod i mewn i Gymru nac aros yng Nghymru heb esgus rhesymol.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ac mae’r manylion fel a ganlyn:
Cwestiwn 1
|
Pobl â chyfeiriad yn Lloegr a roddwyd hysbysiad cosb penodedig iddynt gan Heddlu Dyfed–Powys |
|
|
Blwyddyn |
Nifer |
|
2020 |
861 |
|
2021 |
91 |
|
Cyfanswm |
952 |
Cwestiwn 2
|
Dadansoddiad o droseddau yn ôl math ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd gan Heddlu Dyfed–Powys |
|||
|
Trosedd |
2020 |
2021 |
Cyfanswm |
|
Cynnal busnes neu wasanaeth nad yw’n hanfodol yng Nghymru yn ystod cyfnod argyfwng y coronafeirws |
5 |
1 |
6 |
|
Torri cyfarwyddyd neu fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd – coronafeirws |
25 |
0 |
25 |
|
Torri cyfarwyddyd neu fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd yn ystod cyfnod argyfwng y coronafeirws yn Lloegr |
1 |
0 |
1 |
|
Torri’r gofyniad ynghylch cyfyngu ar symud yn ystod cyfnod argyfwng – coronafeirws |
127 |
0 |
127 |
|
Torri’r cyfarwyddyd gofyniad / tynnu’r person perthnasol – coronafeirws |
2 |
0 |
2 |
|
Torri’r gofyniad i beidio â gadael preswylfa – coronafeirws |
415 |
45 |
460 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i atal gweithrediadau porthladd o dan Atodlen 20 i’r Ddeddf Coronafeirws |
2 |
0 |
2 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd / hysbysiad unigolyn perthnasol yn ystod cyfnod argyfwng y coronafeirws yng Nghymru |
127 |
14 |
141 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd / gofyniad / cyfyngiad a osodwyd o dan Ddeddf Coronafeirws 2020 – Cymru |
29 |
0 |
29 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd ar ôl sgrinio ac asesu ar gyfer coronafeirws yng Nghymru |
0 |
1 |
1 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd swyddog iechyd y cyhoedd mewn lleoliad sgrinio ac asesu coronafeirws yng Nghymru |
3 |
0 |
3 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd ynghylch digwyddiadau / cynulliadau yng Nghymru er mwyn rheoli’r coronafeirws |
39 |
23 |
62 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i gau neu gyfyngu mynediad i fangreoedd yng Nghymru i reoli trosglwyddiad y coronafeirws |
18 |
2 |
20 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i fynd i le ar gyfer sgrinio ac asesu ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru |
7 |
0 |
7 |
|
Methu â chydymffurfio â chyfyngiad / gofyniad ar gyfer sgrinio / asesu / gofyniad arall – coronafeirws |
3 |
0 |
3 |
|
Methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â chyfarwyddyd ynghylch cau eiddo / cyfyngu mynediad (Cymru) – coronafeirws |
1 |
0 |
1 |
|
Ymgynnull mewn adeiladau dan do yng Nghymru gyda mwy na chwe aelod o aelwyd estynedig |
0 |
3 |
3 |
|
Gadael / bod y tu allan i fan preswylio yn Lloegr, heb esgus rhesymol, yn ystod cyfnod argyfwng y coronafeirws |
2 |
0 |
2 |
|
Gadael neu fod i ffwrdd o fan preswylio yng Nghymru heb esgus rhesymol yn ystod cyfnod argyfwng y coronafeirws |
8 |
0 |
8 |
|
Cymryd rhan mewn cynulliad o fwy na dau unigolyn yn gyhoeddus yn ystod cyfnod argyfwng y coronafeirws yng Nghymru |
15 |
2 |
17 |
|
Fel oedolyn cyfrifol, methu â sicrhau bod plentyn yn cydymffurfio â chyfyngiad / gofyniad Rheoliad 5(4) – coronafeirws |
1 |
0 |
1 |
|
Defnyddio llwybrau cyhoeddus neu dir mynediad caeedig yng Nghymru yn ystod cyfnod argyfwng y coronafeirws |
31 |
0 |
31 |
|
Cyfanswm |
861 |
91 |
952 |
Sylwch: Mae nifer o droseddau a allai ddod o dan y rhesymu “torri’r cyfyngiad na chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru ddod i mewn i Gymru nac aros yng Nghymru heb esgus rhesymol”. Felly, heb gael rhestr o droseddau penodol, ni allwn ddarparu cyfanswm.
Fodd bynnag, mae’r tabl uchod yn dangos yr holl droseddau cysylltiedig, yn ôl math, lle rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i berson â chyfeiriad yn Lloegr, a dylai hyn ganiatáu i chi echdynnu’r data sydd ei angen arnoch.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 5 Ebrill 2024)