Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1169/2023
Cais:
Rwy’n ysgrifennu i ofyn am yr wybodaeth ganlynol sy’n ymwneud â’ch defnydd o chwiliadau cronfa ddata i adnabod wynebau, ar gyfer cronfa ddata genedlaethol yr heddlu, cronfa ddata pasbortau, cronfa ddata DVLA, cronfa ddata mewnfudo a chronfa ddata statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd:
Ymateb 1:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae’r esemptiadau canlynol wedi’u cymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch drwy ddulliau eraill:
(1) Mae gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch i’r ceisydd ac eithrio o dan adran 1 yn wybodaeth esempt.
(2) At ddibenion is-adran (1)—
(a) gall gwybodaeth fod yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd er mai dim ond am dâl y mae’n hygyrch, a
(b) bernir bod gwybodaeth yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd os ydyw’n wybodaeth y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus neu unrhyw berson arall gan neu o dan unrhyw ddeddfiad i’w chyfleu (ac eithrio drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael i’w harchwilio) i aelodau o’r cyhoedd ar gais, boed am ddim neu am dâl.
(3) At ddibenion is-adran (1), nid yw gwybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus ac nad yw’n dod o fewn is-adran (2)(b) i’w hystyried yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd dim ond oherwydd bod yr wybodaeth ar gael oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus ei hun ar gais, oni bai bod yr wybodaeth ar gael yn unol â chynllun cyhoeddi’r awdurdod a bod unrhyw daliad sy’n ofynnol yn cael ei bennu yn y cynllun, neu ei benderfynu yn unol ag ef.”
Gellir cael yr wybodaeth y gofynnwyd amdani drwy’r hyperddolen ganlynol –
Cod Ymarfer ar Weithredu a Defnyddio Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu (publishing.service.gov.uk)
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Sylwch y bydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn cyhoeddi’r asesiad o’r effaith ar ddiogelu data maes o law.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir yn ymateb 1.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Y gwneuthurwr meddalwedd dan sylw yw COGNITEC.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 4 Ebrill 2024)