Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 743/2023
Cais:
A gaf i’r wybodaeth ganlynol, os gwelwch yn dda?
a) Sawl adroddiad o offer neu beiriannau amaethyddol yn cael eu dwyn a wnaed i’ch heddlu?
A gaf i’r ffigurau ar gyfer 2015, 2016, 2017, 2018, 2019, 2020, 2021, 2022 a 2023, os gwelwch yn dda?
Gofynnwyd am eglurhad:
Beth ydych chi’n ei ystyried fel offer amaethyddol? A ydyw hyn yn cynnwys cerbydau / ategolion amaethyddol yn unig, neu bob math o beiriannau? Er enghraifft, gellid ystyried llif gadwyn neu gât a ddygwyd o fferm yn offer amaethyddol, ond ni fyddent yn cael eu hystyried yn offer amaethyddol pe baent wedi cael eu dwyn o leoliad nad yw’n fferm.
Mae’r chwiliad yn dibynnu’n helaeth ar gwblhau priodwedd y maes. Gan nad yw hyn yn orfodol gall yr eitem eiddo fod yn wag neu wedi’i nodi fel ‘amaethyddol’ yn unig.
Yn ail, ai dim ond ar gyfer eitemau a gafodd eu dwyn o fferm, ysgubor, tai allan neu gae y mae’r cais hwn? Bydd caniatáu rhagor o leoliadau’n arwain, yn sicr, at ragor o gofnodion, a bydd angen gwirio’r cofnodion hyn wedyn i weld a ydynt yn berthnasol i’r cais.
Yr eglurhad a gafwyd:
Hoffwn gael gwybodaeth am gerbydau / ategolion amaethyddol – nid pethau megis gatiau, os gwelwch yn dda.
Ynglŷn â lleoliad – nid wyf yn poeni a gafodd yr eitem ei dwyn ar fferm ai peidio. Hoffwn gael gwybodaeth am bob lladrad, ni waeth ble y digwyddodd.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 52 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn
https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw rhywfaint o’r wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cais yn cael ei gadw mewn fformat hawdd ei adfer. Felly, er mwyn canfod pa wybodaeth, os o gwbl, sy’n cael ei chadw mewn perthynas â’r cais, ac er mwyn darparu ymateb cywir, byddai angen edrych yn unigol ar nifer o droseddau dwyn lle nad yw’n glir a ydyw’r hyn yr adroddwyd ei fod wedi’i ddwyn yn ymwneud â’ch cais, sydd wedi’i fireinio, h.y. cerbydau / ategolion amaethyddol. Canfuwyd bod cyfanswm o 312 o droseddau dwyn y byddai angen ymchwilio iddynt ar gyfer y cyfnod y gofynnwyd amdano (h.y. rhwng 2017 a 2023). Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf ddeng munud i ymchwilio i un digwyddiad i weld a ydyw’n berthnasol i’ch cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser a ddadansoddir isod.
2017 = 56 o droseddau dwyn x 10 munud fesul trosedd = 9.33 awr
2018 = 48 o droseddau dwyn x 10 munud fesul trosedd = 8.0 awr
2019 = 52 o droseddau dwyn x 10 munud fesul trosedd = 8.67 awr
2020 = 33 o droseddau dwyn x 10 munud fesul trosedd = 5.50 awr
2021 = 39 o droseddau dwyn x 10 munud fesul trosedd = 6.50 awr
2022 = 64 o droseddau dwyn x 10 munud fesul trosedd = 10.67 awr
2023 = 20 o droseddau dwyn x 10 munud fesul trosedd = 3.30 awr
Cyfanswm o 52 awr i gwblhau’r dasg
Sylwer: Ni allwn nodi unrhyw ddata sy’n ymwneud â’ch cais ar gyfer 2015 a 2016. Yn ogystal â hyn, mae gennym rywfaint o ddata sy’n ymwneud â’r cyfnod rhwng 2017 a 2023 mewn perthynas â’ch cais y gellir eu hadfer o fewn y terfyn amser o 18 awr. Fodd bynnag, ni fyddai’r data hyn yn gynrychioliad gwir a chywir o’r data yr ydych wedi gofyn amdanynt.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr, ond o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarperir uchod mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn peri iddo fod o fewn y 18 awr gan y bydd yn rhaid dilyn yr un dull a’r un fformat. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 9 Ebrill 2024)