Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 367/2024
Cais:
Cais gwreiddiol 35/2024:
Cais pellach:
Cadarnhaodd y data a ddarparwyd gennych yn union yr hyn yr oeddwn wedi ei amau, gan ddatgelu, er gwaethaf eu sicrwydd i’r gwrthwyneb, fod heddlu’r Drenewydd yn methu â gwneud unrhyw beth i atal y gyrwyr gwrthgymdeithasol sy’n rhuo drwy’r dref ar bob awr o’r dydd.Tybed yn awr a ydyw heddlu’r Drenewydd wedi gwneud unrhyw beth o gwbl mewn gwirionedd dros yr holl gyfnod yr wyf wedi bod mewn cysylltiad â nhw.
Felly hoffwn wybod a ydyw’n bosibl cael yr un wybodaeth wedi’i hymestyn dros gyfnod hwy o amser, sef am y tair blynedd diwethaf—o fis Mawrth 2021 hyd heddiw—gan mai dyma’r cyfnod yr wyf wedi bod yn ymdrechu i gael heddlu’r Drenewydd i fynd i’r afael â’r broblem ynghylch diflastod sŵn. Ai mater syml o adolygu dyddiadau dechrau a gorffen y cais blaenorol am wybodaeth yw hyn, neu a fyddai’n rhaid i mi wneud cais ar wahân?
Eglurhad:
Ymateb
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog yr heddlu am droseddau yn ymwneud â sŵn peipen egsôst lle cofnodwyd y lleoliad fel y Drenewydd:
1 Mawrth 2021 – 28 Chwefror 2022 – 2
1 Mawrth 2022 – 28 Chwefror 2023 – 6
1 Mawrth 2023 – 29 Chwefror 2024 – 4
Deliwyd ag 8 unigolyn trwy gynnig amodol, ac anfonwyd 4 unigolyn i’r llys. Cafwyd 2 yn euog o droseddau yn ymwneud â sŵn peipen egsôst.
Sylwer: mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar y lleoliad yn cael ei gofnodi fel y Drenewydd. Nid yw’n glir felly a ddigwyddodd y troseddau hyn yng nghanol tref y Drenewydd neu y tu allan iddi.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 11 Ebrill 2024)