Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 79/2024
Cais:
Ysgrifennaf i ofyn am wybodaeth ynghylch trefniadaeth plismona lleol a’r ymateb lleol i drosedd ac anhrefn.
Mae gennyf ddiddordeb yn yr unedau trefniadaeth y cyfeirir atynt yn gyffredin fel ardaloedd plismona lleol, rhanbarthau, ardaloedd neu unedau rheoli sylfaenol. Maent fel arfer yn cyd-fynd â ffiniau’r awdurdodau lleol neu ffiniau partneriaethau diogelwch cymunedol.
Ar gyfer pob un o’r ardaloedd hyn o fewn eich heddlu, hoffwn wybod y canlynol:
1 - Enw’r ardal, unrhyw god daearyddol cyfatebol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) (mae’r rhain fel arfer yn gyfres naw digid sy’n cynnwys y llythyren E, ac yna wyth nod rhifiadol), ac unrhyw god cyfres byr a ddefnyddir gan yr heddlu fel llaw-fer i gynrychioli’r ddaearyddiaeth.
2 - Enw cyntaf ac olaf, a rheng yr uwch swyddog presennol sy’n gyfrifol (a elwir yn aml yn ‘gomander lleol’ neu debyg) am blismona’r ardal honno, y dyddiad y’i penodwyd, a chyfeiriad e-bost ar gyfer yr unigolyn neu’r swydd.
3 - Enw cyntaf ac olaf, a rheng y ddau uwch swyddog blaenorol yn y swydd honno, a’r dyddiadau yr oeddent yn y rôl.
– Os na ddarperir cod y SYG: disgrifiad o ehangder daearyddol yr ardal a’r ffiniau y mae’n cyd-fynd â nhw (gallai hwn fod yn un awdurdod lleol neu ragor, neu bartneriaethau diogelwch cymunedol, neu debyg).
4 - Ymhellach, ar gyfer pob un o’r ardaloedd uchod, rhestr o’r ardaloedd daearyddol llai y mae eich heddlu yn eu defnyddio i drefnu a darparu gwasanaeth plismona lleol (gallai’r rhain gael eu galw’n gyffredin yn ‘gymdogaethau’ a byddant fel arfer naill ai’n ward unigol neu’n gasgliad o wardiau), gan gynnwys:
– enw'r ardal, unrhyw god daearyddol cyfatebol SYG, unrhyw god cyfres byr a ddefnyddir gan yr heddlu fel llaw-fer i gynrychioli’r ddaearyddiaeth.
– os na ddarperir cod SYG: disgrifiad o ehangder daearyddol yr ardal a’r ffiniau y mae’n cyd-fynd â nhw (gallai hwn fod yn ward unigol neu’n gasgliad o wardiau).
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae ardaloedd plismona lleol yn cyd-fynd â’r siroedd o fewn yr heddlu, sef Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys.
Ymateb 2 a 3:
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Lleoliad |
Ceredigion: |
Sir Benfro: |
Sir Gaerfyrddin: |
Powys: |
|
Enw |
Yr Uwcharolygydd dros dro Richard Davies |
Yr Uwcharolygydd Craig Templeton |
Yr Uwcharolygydd Ross Evans |
Yr Uwcharolygydd Andrew Edwards |
|
Cyfeiriad e-bost |
||||
|
Dyddiad |
11/09/2023 – |
10/09/2023 – |
07/05/2023 – |
06/08/2023 – |
|
|
|
27/11/2022 – 09/09/2023 (dros dro) |
|
|
|
Enw |
Yr Uwcharolygydd Ross Evans |
Yr Uwcharolygydd Anthony Evans |
Yr Uwcharolygydd Clark Jones John |
Yr Uwcharolygydd dros dro Andrew Pitt |
|
Dyddiad |
13/08/2022 – 06/05/2023 |
01/09/2020 – 26/11/2022 |
(Dros dro) 10/07/2022 – 08/07/2023 |
(Dros dro) 07/08/2022 – 05/08/2023 |
|
|
(Dros dro) 19/06/2022 – 12/08/2022 |
|
|
|
|
Enw |
Yr Uwcharolygydd Mason (nid yw’n rhan o’r heddlu bellach) |
Yr Uwcharolygydd Ross Evans |
Yr Uwcharolygydd Gary Phillips |
Yr Uwcharolygydd Steve Davies |
|
Dyddiad |
03/05/2020 – 12/08/2022 |
(Dros Dro) 24/10/2018 – 31/08/2020 |
02/01/2022 – 09/07/2022 |
03/05/2020 – 06/08/2022 |
Ymateb 4:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar eithriadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn berthnasol.
Gallaf gadarnhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae’r esemptiadau canlynol yn berthnasol i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch drwy ddulliau eraill:
"(1) Mae gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch i’r ceisydd, ac eithrio o dan adran 1, yn wybodaeth esempt.
(2) At ddibenion is-adran (1)—
(a)caiff gwybodaeth fod yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd er mai dim ond am dâl y mae’n hygyrch, a
(b) bernir bod gwybodaeth yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd os yw’n wybodaeth y mae’n ofynnol i’r awdurdod cyhoeddus, neu unrhyw berson arall, gan unrhyw ddeddfiad neu oddi dano i’w chyfleu (ac eithrio drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael i’w harchwilio) i aelodau o’r cyhoedd ar gais, boed yn rhad ac am ddim neu am dâl.
(3) At ddibenion is-adran (1), nid yw gwybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus ac nad yw’n dod o fewn is-adran (2)(b) i’w hystyried yn rhesymol hygyrch i’r ceisydd dim ond oherwydd bod yr wybodaeth ar gael oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus ei hun ar gais, oni bai bod yr wybodaeth ar gael yn unol â chynllun cyhoeddi’r awdurdod a bod unrhyw daliad sy’n ofynnol yn cael ei bennu yn y cynllun, neu ei benderfynu yn unol ag ef.”
Gellir dod o hyd i bob cymdogaeth yn yr heddlu trwy ddilyn y ddolen hon: Heddlu Dyfed-Powys | Police.uk (www.police.uk) ac mae’r tab Map Trosedd yn dangos ehangder daearyddol pob ardal a’r ffiniau y mae’n cyd-fynd â nhw.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 17 Ebrill 2024)