Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 295/2024
Cais:
1. Faint o swyddogion heddlu gafodd eu recriwtio ar Brentisiaeth Gradd Cwnstabliaid Heddlu ers mis Tachwedd 2020?
a) Faint ohonyn nhw sydd wedi cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus?
b) Faint ohonyn nhw sy'n dal ar eu rhaglen?
c) Faint ohonyn nhw sydd wedi cael eu symud wedyn i raglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu?
d) Faint ohonyn nhw sydd wedi ymddiswyddo, neu wedi gadael y llu fel arall?
2. Faint o swyddogion heddlu a recriwtiwyd ar y rhaglen mynediad Deiliaid Gradd, (gan gynnwys y rhaglen mynediad i Ddeiliaid Gradd ar gyfer Ditectif) ers mis Tachwedd 2020?
a) Faint ohonyn nhw sydd wedi cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus?
b) Faint ohonyn nhw sy'n dal ar eu rhaglen?
c) Faint ohonyn nhw sydd wedi cael eu symud wedyn i raglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu?
d) Faint ohonyn nhw sydd wedi ymddiswyddo, neu wedi gadael y llu fel arall?
3. Faint o swyddogion heddlu a gafodd eu recriwtio ar Raglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu ers mis Tachwedd 2020?
Faint ohonyn nhw sydd wedi cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus?
Faint ohonyn nhw sy'n dal ar eu rhaglen?
Faint ohonyn nhw sydd wedi ymddiswyddo, neu wedi gadael y llu fel arall?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ac mae’r manylion fel a ganlyn:
1. Mae 156 o swyddogion heddlu wedi cael eu recriwtio ar lwybr Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid Heddlu (PCDA) ers mis Tachwedd 2020 (o 1 Mawrth 2021 tan 11 Medi 2023).
a) 9 wedi cwblhau'r rhaglen.
b) 124 yn dal ar y rhaglen.
c) 0 wedi symud i Raglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu (IPLDP).
d) 23 wedi tynnu'n ôl o'r rhaglen.
2. Mae 120 o Swyddogion Heddlu wedi'u recriwtio ar y Rhaglen Mynediad Deiliad Gradd (DHEP) a Rhaglen Mynediad Deiliad Gradd Ditectif Cwnstabl (DC DHEP) ers Tachwedd 2020 (1 Mawrth 2021 tan 11 Medi 2023).
a) 50 wedi cwblhau'r rhaglen.
b) 57 yn dal wrthi’n cyflawni’r rhaglen.
c) 0 wedi symud i Raglen Dysgu a Datblygu Cychwynnol yr Heddlu (IPLDP).
d) 13 wedi tynnu'n ôl o'r rhaglen.
3. 0 swyddog heddlu wedi eu recriwtio ar lwybr IPLDP ers mis Tachwedd 2020.
a) Amherthnasol.
b) Amherthnasol.
c) Amherthnasol.
d) Amherthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 5 Ebrill 2024)