Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 218/2024
Cais:
Hoffwn wybod a ydyw eich ffurflenni cais ar gyfer staff ac ar gyfer aelodau paneli yn cofnodi rhywedd biolegol gwyddonol gwirioneddol ymgeisydd neu a ydyw’r ffurflenni’n gofyn am y rhywedd dychmygol?
Os ydych yn holi ynghylch rhywedd, sut ydych chi’n monitro eich cyfrifoldebau i fenywod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?
Hoffwn gael sicrwydd eich bod yn casglu data trosedd yn ôl rhywedd biolegol, yn hytrach na rhyw addefedig.
Os na, sut ydych chi’n cipio’r ffaith bod gwrywod yn fwy tebygol o droseddu na benywod?
Cwestiwn yn ceisio eglurhad:
Os gwelwch yn dda, a allwch chi fod yn fwy penodol ynghylch y data y mae eu hangen arnoch pan ofynnwch “sut ydych chi’n monitro eich cyfrifoldebau i fenywod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010?”
O ran cwestiwn 3, nid ydym yn siŵr beth yr ydych chi’n gofyn amdano mewn gwirionedd. A allwch chi fod yn fwy penodol?
Ateb eglurhaol:
Rwy’n ymwybodol o Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, a sefydlodd hawliau penodol i bobl drawsryweddol yn benodol mewn perthynas ag ardystio, priodas a budd-daliadau, ond mae eithriadau yn y darn hwnnw o ddeddfwriaeth, gan gynnwys troseddau rhyw-benodol; ac nis rhagwelwyd yn fodd o sathru ar iawnderau merched.
Fy nghais yma yn syml yw:-
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae ein ffurflenni cais yn gofyn am hunaniaeth o ran rhywedd a rhyw o dan adran cyfle cyfartal y ffurflen. Mae hefyd yn gofyn i’r ymgeisydd a ydyw wedi ailbennu rhywedd.
Ni fyddai’r wybodaeth hon ar gael i’r panel sy’n llunio rhestr fer ac yn cyfweld. Mae pob cais yn ddienw erbyn y broses llunio rhestr fer ac nid yw’r panel yn medru cyrchu unrhyw fanylion personol na gwybodaeth sensitif am yr ymgeiswyr.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn darparu ar gyfer ceisiadau dioddefwyr lle bo modd, ond pan fydd angen ymateb ar unwaith i ddigwyddiad fel ymosodiad domestig neu rywiol, caiff y swyddogion agosaf eu defnyddio waeth beth fo’u rhywedd gan mai’r flaenoriaeth yw diogelu’r unigolyn sy’n wynebu risg yn gyflym.
At hynny, mae’n rhaid i’r heddlu amddiffyn swyddogion a staff yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb, sy’n datgan ‘rhaid peidio â gwahaniaethu’n uniongyrchol yn eich erbyn oherwydd bod gennych nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd’. Mae hyn hefyd yn golygu na ddylai gwybodaeth bersonol gael ei rhannu ac eithrio ar sail angen i wybod yn unig. Felly, ni fyddai’r unigolion sy’n anfon swyddogion i swyddi yn cael gwybod y rhywedd a bennwyd ar gyfer eu cydweithwyr.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 9 Ebrill 2024)