Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 690/2023
Cais:
A allwch chi anfon manylion ataf am unrhyw offeryn deallusrwydd artiffisial yr ydych chi’n ei ddefnyddio a allai ddod o dan safon adrodd tryloywder algorithmig Swyddfa’r Cabinet? I fod yn glir, unrhyw offeryn algorithmig sydd:
NAILL AI
Yn dylanwadu’n sylweddol ar broses gwneud penderfyniadau gydag effaith gyhoeddus uniongyrchol neu anuniongyrchol
NEU
Yn rhyngweithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd
Rhestrir diffiniad y safon yma, ynghyd ag enghreifftiau o brosiectau sydd eisoes wedi’u hadrodd: https://www.gov.uk/algorithmic-transparency-records
Mae’r effeithiau cyhoeddus posibl yn cynnwys:
Yr offeryn yn effeithio’n sylweddol ar unigolion, sefydliadau neu grwpiau
Ei fod yn cael effaith gyfreithiol, economaidd neu debyg ar unigolion, sefydliadau neu grwpiau
Ei fod yn effeithio ar hawliau gweithdrefnol neu annibynnol
Ei fod yn effeithio ar gymhwysedd ar gyfer cael neu wadu rhaglen
Ymateb:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw. Mae hyn oherwydd y ffaith bod yr Uned Rhyddid Gwybodaeth wedi cael gwybod nad yw offer deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol gan Heddlu Dyfed-Powys.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 30 Ebrill 2024)