Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 341/2024
Cais:
1) Beth hoffech chi ei wybod? Pa gwricwlwm / cymhwyster y mae eich uned yrru yn ei ddarparu / yn glynu ato ar gyfer cyrsiau gyrru gwasanaeth ymateb arferol yr heddlu?
2) Beth hoffech chi ei wybod? A ydyw Heddlu Dyfed-Powys yn darparu hyfforddiant gyrru ar gyfer asiantaethau allanol (gan gynnwys heddluoedd eraill)?
Os felly, a oes costau safonol ac a ydyw’r cyrsiau ar gael i weithwyr dethol o asiantaethau penodol yn unig?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
1) Mae pob hyfforddwr gyrru yn Heddlu Dyfed-Powys yn mynd trwy gwrs trwyadl ar gyfer hyfforddwyr, lle mae’n rhaid iddynt gyflawni’r holl feini prawf perfformiad a osodir gan y Coleg Plismona. Mae’n rhaid i bob hyfforddwr yn Heddlu Dyfed-Powys fod yn yrrwr lefel uwch, a chwblhau’r rhaglen hanfodion hyfforddi (TEP), cymhwyster aseswr lefel 3, cyn cychwyn ar y cwrs chwe wythnos i hyfforddwyr.
Unwaith y byddant wedi cwblhau’r cwrs hyfforddwr a’r broses fentora, maent yn gymwys i hyfforddi cyrsiau gwasanaeth ymateb yr heddlu (gwasanaeth ymateb arferol yr heddlu – cwrs tair wythnos). Cyn y gall hyfforddwr symud ymlaen i gyrsiau eraill, megis y cwrs gyrru car lefel uwch, mae’n rhaid iddo fod wedi cwblhau o leiaf chwe chwrs gwasanaeth ymateb arferol yr heddlu a chael ei gymeradwyo fel hyfforddwr cymwys gan y Prif Hyfforddwr Gyrru.
Bydd yr hyfforddwr wedyn yn mynd trwy broses fentora ar gyfer unrhyw gyrsiau ychwanegol, er enghraifft y cwrs gyrru car lefel uwch neu’r cwrs safonol ar gyfer beiciau modur. Mae’r broses fentora yn cynnwys arsylwi cwrs llawn ac yna dilyn cwrs llawn tra bod hyfforddwr gyrwyr cymwys yn eich arsylwi.
2) Mae Heddlu Dyfed-Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi gyrwyr i heddluoedd allanol, fel yr Heddlu Metropolitanaidd, ac mae’r heddluoedd allanol yn talu amdanynt.
Mae Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi i’w gilydd, megis y cwrs D1 a diwrnodau gloywi, ond nid ydynt yn codi tâl ar ei gilydd.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Ebrill 2024)