Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 695/2023
Cais:
C1) Ar gyfer y pum mlynedd galendr ddiwethaf, a fyddech cystal â darparu cyfanswm nifer y digwyddiadau sbeicio yr adroddwyd amdanynt, ynghyd ag unrhyw ffigurau sydd ar gael ar adroddiadau o’r fath ar gyfer 2023 (gan nodi’r cyfnod)?
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi chwilio am y data hyn drwy chwiliadau allweddair o godau’r mynegai disgrifiadol, gan ddefnyddio’r termau ‘spike’, ‘spiking’, ‘spiked’, a throseddau honedig o dan y codau canlynol gan y Swyddfa Gartref?
005/10 Gweinyddu gwenwyn er mwyn peryglu bywyd
005/24 Defnyddio sylweddau neu bethau gwenwynig i achosi niwed ac i frawychu
008/02 Gweinyddu gwenwyn gyda’r bwriad o anafu neu gythruddo
088/05 Gweinyddu sylwedd yn fwriadol
A fyddech cystal â darparu’r data hyn fesul blwyddyn?
a) 2018
b) 2019
c) 2020
d) 2021
e) 2022
f) 2023 – y data diweddaraf sydd ar gael
Eglurhad:
Cwestiwn
A ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Digwyddiad yw cofnod o gyswllt a wnaed â’r heddlu gan unigolyn/aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101), a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd er mwyn i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd, fel y’i diffinnir gan y gyfraith.
Ateb
Yr wyf yn holi am ddigwyddiadau.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
|
Cyfanswm nifer yr achosion o sbeicio |
|
|
Blwyddyn |
Nifer yr adroddiadau |
|
2018 |
12 |
|
2019 |
33 |
|
2020 |
23 |
|
2021 |
61 |
|
2022 |
89 |
|
2023 (01/01/23 – 15/05/23) |
23 |
|
Cyfanswm |
241 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 8 Ebrill 2024)