Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 195/2024
Cais:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae esemptiad o dan adran 31(1)(a)(b) – Gorfodi’r gyfraith, wedi’i gymhwyso i rywfaint o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan felly esemptio rhyddhau’r wybodaeth.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad(au) dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Adran 31(1)(a)(b) Gorfodi’r gyfraith:
(1) Mae gwybodaeth nad yw’n wybodaeth esempt yn rhinwedd adran 30 yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio, neu’n debygol o niweidio—
(a) atal neu ganfod trosedd
(b) dal neu erlyn troseddwyr
Mae adran 31 yn esemptiad amodol ar sail niwed ac felly mae gofyniad i ddarparu manylion y niwed yn ogystal â phrawf budd y cyhoedd.
Niwed wrth ddatgelu
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ‘ddall o ran pwy yw’r ymgeisydd’. Mae hyn yn golygu na allwn, ac nad ydym, yn gofyn am gymhellion unrhyw un sy’n gofyn am wybodaeth. Wrth ddarparu ymateb i un unigolyn, rydym yn mynegi parodrwydd i roi’r un ymateb i unrhyw un, gan gynnwys y rhai a allai fod yn fygythiad i’r DU.
Lle mae datgelu yn debygol o beryglu prif swyddogaethau Heddlu Dyfed-Powys, sef atal a chanfod trosedd yn ogystal â dal ac erlyn troseddwyr, mae angen diogelu gwybodaeth.
O ystyried y swyddogaethau hynny, rôl dactegol y negodwyr yw ymdrin â digwyddiadau a negodi gydag unigolion i ddatrys sefyllfa yn unol â strategaeth rheolwr y digwyddiad. Trwy wneud hynny maent yn darparu sefydlogrwydd a chefnogaeth i’r rhai sy’n rheoli digwyddiadau o’r fath. Felly, byddai darparu nifer y negodwyr hyfforddedig o fewn Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â heddluoedd eraill, yn helpu troseddwyr i nodi ym mha ardaloedd heddlu y gellid ystyried bod lefel adnodd o’r fath yn wannach, a defnyddio’r wybodaeth hon er mantais iddynt wrth hybu gweithgaredd troseddol o amgylch ardal yr heddlu a’r wlad yn ei chyfanrwydd.
Yn ogystal, byddai enwi’r heddluoedd sy’n darparu hyfforddiant negodwyr yn darparu digon o wybodaeth i unigolion (neu grwpiau o unigolion) sydd â bwriad troseddol neu faleisus i leoli, rhag-chwilio a thargedu cyfleusterau hyfforddi perthnasol yn uniongyrchol. Byddai hyn yn cynnwys amharu ar y gallu i ddarparu hyfforddiant o’r fath yn ddiogel ac yn effeithlon. Yn y pen draw, byddai hyn yn rhoi mantais dactegol i droseddwyr dros yr heddlu, y gellid ei defnyddio wedyn i lesteirio ein gallu i gyflawni swyddogaethau gorfodi’r gyfraith sylfaenol.
Dim ond fel rhywbeth sy’n niweidiol i’r cyhoedd y gellir ystyried datgelu gwybodaeth sy’n debygol o danseilio gallu’r heddlu i wasanaethu’r cyhoedd drwy ddarparu’r prif swyddogaethau a nodir.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Byddai datgelu yn caniatáu ar gyfer mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus a didwylledd ynghylch gallu Heddlu Dyfed-Powys i ymdrin â sefyllfaoedd negodi argyfwng o ran adnoddau.O ganlyniad, byddai’r cyhoedd yn dod yn fwy gwybodus ynghylch sut a ble mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yn y maes hwn o blismona a byddent yn cael mwy o wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i atal a chanfod trosedd. Gall hynny ynddo’i hun arwain at leihad mewn trosedd a rhoi mwy o hyder i’r cyhoedd wrth adrodd am ddigwyddiadau o droseddu, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Byddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael effaith niweidiol ar blismona gweithredol. Byddai datgelu nifer y negodwyr hyfforddedig o fewn Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â gwybodaeth sy’n berthnasol i’w hyfforddiant, yn rhoi mantais weithredol sylweddol i’r unigolion neu’r grwpiau hynny o fewn y frawdoliaeth droseddol gan y gellid defnyddio’r wybodaeth gyda’r bwriad o darfu ar hyfforddiant, neu ddatblygu tactegau a fyddai’n dargyfeirio adnoddau oddi wrth leoliadau y maent yn dymuno eu targedu. Byddai hyn yn amlwg yn peryglu gallu Heddlu Dyfed-Powys i ymateb yn briodol i weithgarwch troseddol a thrwy hynny amddiffyn y cyhoedd.
Gellid defnyddio’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i gyfaddawdu galluoedd gorfodi’r gyfraith drwy leihau gallu’r heddlu i frwydro yn erbyn trosedd, a fyddai’n cynyddu cyflawniad troseddau, ac o ganlyniad byddai’n cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd yn ogystal â lleihau hyder y cyhoedd yn yr heddlu.
Prawf cydbwysedd
Ar ôl pwyso a mesur y buddiannau sy’n cystadlu rwyf wedi penderfynu na fyddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani er budd y cyhoedd. Rwyf o’r farn nad yw’r budd a fyddai’n deillio o ddatgelu’r wybodaeth yn drech na’r ystyriaethau o blaid peidio â datgelu.
Dof i’r casgliad mai’r rhesymau cryfaf o blaid datgelu yw er mwyn sicrhau mwy o ymwybyddiaeth a didwylledd i’r cyhoedd o ran sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, ac a oes gan Heddlu Dyfed-Powys adnoddau addas ai peidio i ymdrin â sefyllfaoedd o negodi argyfyngus.
Fodd bynnag, y rhesymau cryfaf a mwyaf pendant yn erbyn datgelu yw’r effaith y byddai datgelu yn ei chael ar ddiogelwch y cyhoedd, ac er mwyn atal ailgyfeirio maleisus o adnoddau Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’n amlwg na all rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n debygol o gynorthwyo’r rhwydwaith troseddol ac effeithio ar ein galluoedd gweithredol a thactegol fod er budd y cyhoedd, ac er ein bod yn dymuno croesawu’r ethos o ddatgelu gwybodaeth, ni all hyn gael blaenoriaeth dros ddiogelwch y cyhoedd.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae hyfforddiant yn cynnwys ymgymryd â chwrs preswyl sy’n cynnwys ymarferion chwarae rôl a asesir.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae’r Cwrs Negodwyr Argyfwng Cenedlaethol yn bythefnos o hyd.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Darperir hyfforddiant gan heddluoedd achrededig amrywiol y DU. Sylwch na ellir darparu unrhyw wybodaeth bellach gan ei bod wedi’i hesemptio o dan adran 31(1) fel y manylir uchod yn Ymateb 1.
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Sylwch, mae’r wybodaeth isod yn ymwneud â nifer y swyddogion heddlu sydd wedi gwneud yr hyfforddiant bob blwyddyn. Nid yw’n ymwneud â chyfanswm y negodwyr hyfforddedig sydd yn yr heddlu.
|
|
Cyfanswm swyddogion yr heddlu a hyfforddwyd fesul blwyddyn |
|
2017 |
2 |
|
2018 |
1 |
|
2019 |
3 |
|
2020 |
0 |
|
2021 |
4 |
|
2022 |
4 |
|
2023 |
2 |
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 4 Ebrill 2024)