Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 800/2023
Cais:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Sylwch fod y data hwn yn ymwneud â’r hyn a oedd yn cael ei gadw ar adeg derbyn eich cais.
£4,208
(Dylid nodi bod yr uned yn ‘symudol’ a gellid ei hailddefnyddio ar gyfer defnydd pellach os oes angen.)
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Gosodwyd yr uned dros dro mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol eraill o dan y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Ni fyddai hyn yn amodol ar y prosesau cynllunio arferol oni bai fod gosodiad parhaol yn cael ei ystyried.
Ymateb 3 a 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae esemptiad adran 31(1)(a)(b), gorfodi’r gyfraith, wedi’i gymhwyso i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan felly ei hesemptio rhag cael ei rhyddhau.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ymgeisydd sydd:
a) Yn datgan y ffaith honno
b) Yn nodi’r esemptiad(au) dan sylw ac
c) Yn nodi (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn berthnasol
Adran 31(1)(a)(b) Gorfodi’r Gyfraith:
(1) Mae gwybodaeth nad yw’n wybodaeth esempt yn rhinwedd adran 30 yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio, neu’n debygol o niweidio—
(a) atal neu ganfod trosedd
(b) dal neu erlyn troseddwyr
Mae adran 31 yn esemptiad amodol ar sail niwed ac felly mae gofyniad i ddarparu manylion y niwed yn ogystal â phrawf budd y cyhoedd.
Niwed wrth ddatgelu
Mae proses y prawf niwed yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys ystyried unrhyw niwed posibl a allai godi o ganlyniad i roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y parth cyhoeddus. Mae’r broses hon yn ystyried y niwed posibl i’r canlynol:
Mae datgeliadau a wneir o dan y Ddeddf yn cael eu cyhoeddi gan Heddlu Dyfed–Powys. Pe bai’r heddlu yn rhyddhau gwybodaeth fanwl mewn perthynas â systemau teledu cylch cyfyng penodol, byddai hyn ar gael i’r rhai sy’n ceisio rhwystro cyfiawnder mewn sefyllfa barhaus. Byddai’r wybodaeth hon yn helpu pobl sy’n ceisio cyflawni troseddau neu sy’n bygwth gwneud hynny. Byddai hyn yn arwain at heriau gweithredol ac yn llesteirio gallu’r heddlu i atal a/neu ganfod trosedd neu ddal neu erlyn troseddwyr, yn groes i fudd y cyhoedd.
Dylid nodi hefyd y gall datgeliadau o dan y Ddeddf ymddangos yn ddiniwed ond, o’u rhoi ynghyd â datgeliadau eraill o dan y Ddeddf, deunydd cyhoeddedig a/neu wybodaeth a gasglwyd am waith yr heddlu, gellir eu defnyddio fel ‘mosaig’ i greu darlun ar gyfer y rheini sy’n dymuno cyflawni troseddau.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae Heddlu Dyfed–Powys yn awdurdod cyhoeddus ac yn y pen draw mae’n atebol i’r cyhoedd. Pan wneir unrhyw gais am wybodaeth i’r heddlu, mae’n bwysig bod yr heddlu yn dryloyw, lle bo modd, wrth ymateb i’r cais hwnnw am wybodaeth. Byddai datgelu nifer y camerâu ar y system a lle mae’r data’n cael ei gadw yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i fod yn fwy agored a thryloyw gyda’r cyhoedd.
Mae Heddlu Dyfed–Powys yn cael pwerau eithriadol i atal a chanfod trosedd. Mae budd amlwg iawn i’r cyhoedd mewn darparu cymaint o wybodaeth ag y bo modd am y ffordd y deliodd yr heddlu â’r sefyllfa yng Ngwesty Parc y Strade. Byddai rhyddhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly yn hwyluso trafodaeth gyhoeddus wybodus.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Mae gan yr heddlu rwymedigaeth gadarnhaol o dan Erthygl 2 o’r Ddeddf Hawliau Dynol i atal colli bywyd neu anaf difrifol a disgwylir iddo hefyd atal a/neu ganfod trosedd neu ddal neu erlyn troseddwyr. Mae’r teledu cylch cyfyng yn chwarae rhan ganolog wrth gynorthwyo’r heddlu gyda’i rwymedigaethau.
Prawf cydbwysedd
Wrth ystyried a yw rhyddhau gwybodaeth er budd y cyhoedd, mae’n rhaid i mi ystyried a yw budd y cyhoedd o blaid rhyddhau gwybodaeth i’r parth cyhoeddus neu a oes rheswm digonol i gefnogi atal yr wybodaeth y gofynnwyd amdani. Ar ôl ystyried eich cais, rwy’n derbyn bod bod yn agored ac yn dryloyw er budd y cyhoedd pan wneir unrhyw gais am wybodaeth gan yr heddlu. Derbyniaf hefyd fod budd cyhoeddus mewn rhyddhau gwybodaeth am y modd yr ymdriniodd yr heddlu â’r sefyllfa yng Ngwesty Parc y Strade.
Rhaid cydbwyso budd y cyhoedd o blaid rhyddhau yn erbyn unrhyw risg a/neu niwed cysylltiedig a fyddai’n cael eu hachosi gan ddatgelu. Ar ôl ystyried hyn yn ofalus, rwyf wedi canfod bod teledu cylch cyfyng yn arf pwysig sydd ar gael i’r heddlu i helpu i atal colli bywyd neu anaf difrifol ac i nodi amgylchiadau lle mae risg o niwed, difrod neu aflonyddwch yn y lleoliad. Byddai darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn llesteirio gallu’r heddlu i atal a/neu ganfod trosedd neu ddal troseddwyr, yn groes i fudd y cyhoedd.
Ar ôl ystyried eich cais yn ofalus, rwyf wedi canfod bod budd y cyhoedd o hyd mewn sicrhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn gallu cadw gwybodaeth yn ôl a fyddai’n amharu ar ei allu i gydymffurfio â’i rwymedigaeth gadarnhaol i atal colli bywyd neu anaf difrifol yn unol ag Erthygl 2 y Ddeddf Hawliau Dynol ac i atal a/neu ganfod trosedd neu ddal troseddwyr. Mae’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly yn cael ei gwrthod am y rheswm hwn.
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Do, gyda phartneriaid allweddol, sef y broses arferol ar gyfer gosodiadau dros dro o’r fath.
Ymateb 6:
Gall testun data wneud cais am ei ddata o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) neu Ddeddf Diogelu Data 2018 ac mae hyn yn cynnwys data sydd wedi’i gynnwys mewn lluniau teledu cylch cyfyng. Gelwir y rhain yn geisiadau am fynediad at ddata gan y testun. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd ffilm yn cael ei datgelu os yw esemptiad(au) a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth yn berthnasol. Byddai pob cais a darn o ffilm teledu cylch cyfyng yn cael eu hystyried fesul achos. Mae rhagor o wybodaeth am y broses cais am fynediad at ddata gan y testun i’w chael ar wefan Heddlu Dyfed–Powys neu ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Diogelu data | Heddlu Dyfed-Powys
Cael copiau o'ch gwybodaeth (SAR) | ICO
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 23 Ebrill 2024)