Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 850/2023
Cais:
1) Rwyf wedi sylwi bod system monitro teledu cylch cyfyng newydd wedi’i gosod yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli ar 7 Medi 2023. Hoffwn wybod a yw’r system wyliadwriaeth hon yn eiddo i Heddlu Dyfed–Powys ac, os felly, a fyddech cystal â rhoi’r gost gosod i mi.
2) Hoffwn ofyn hefyd, os nad ydych yn berchen ar y system newydd hon, yna pwy yw’r perchennog sy’n gyfrifol? Hefyd, rwyf am sicrhau bod hyn yn cydymffurfio â holl gyfreithiau cyfredol y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a bod perchnogion eiddo cyfagos wedi’u hysbysu’n gywir a bod yr holl ddeunydd wedi’i recordio ar gael am ddim i’w werthuso gan aelodau o’r cyhoedd sy’n mynd i mewn i’r tir preifat gerllaw’r gwesty ac yn ei adael.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ac mae’r manylion fel a ganlyn:
1) Ie, Heddlu Dyfed–Powys sy’n berchen ar y system camerâu teledu cylch cyfyng; ni fu’n rhaid i Heddlu Dyfed–Powys dalu unrhyw gost am ei gosod.
2) Gosodwyd yr uned dros dro mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol eraill o dan y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Ni fyddai hyn yn amodol ar y prosesau cynllunio arferol oni bai fod gosodiad parhaol yn cael ei ystyried.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 29 Ebrill 24)