Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 125/2024
Cais:
Eglurhad:
Cwestiwn
Ynghylch cwestiwn 1 – A ydych yn dymuno gwybod nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd adroddiad trosedd draffig iddynt, neu nifer yr unigolion a gafodd eu dal yn goryrru gan fan camera cyflymder, neu’r ddau?
Ynghylch cwestiwn 2 – A ydych yn dymuno gwybod nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd adroddiad trosedd draffig iddynt, neu nifer yr unigolion a gafodd eu dal yn goryrru gan fan camera cyflymder, neu’r ddau?
Ynghylch cwestiwn 3 – A ydych yn dymuno gwybod nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog ac y rhoddwyd adroddiad trosedd draffig iddynt, neu nifer yr unigolion a gafodd eu dal yn goryrru gan fan camera cyflymder, neu’r ddau?
Ateb
Ar gyfer pob cwestiwn, y ddau os gwelwch yn dda.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiynau 1 i 3 y cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan:
“Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i gwestiynau 1 i 3 eich cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn y Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004.
Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 147 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244.
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw.
Oherwydd cyfyngiadau presennol ar y system, ni allwn dynnu data yn hawdd o ran eich cais, o 12 Mai 2023. Byddai’n rhaid i ni felly chwilio’r cofnodion perthnasol â llaw i benderfynu a oeddent wedi arwain at adroddiad trosedd draffig neu fanylion eraill, e.e. ‘terfyn cyflymder’ ac ‘oedran’ neu ‘ddyddiad geni’.
Canfuwyd, ar gyfer y cyfnod a bennir yn y cais (h.y. 12 Mai 2023 i 31 Mai 2023) bod cyfanswm o 2,211 o gofnodion y byddai angen ymchwilio iddynt.
Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd o leiaf bedair munud i ymchwilio i un digwyddiad i weld a ydyw’n berthnasol i gwestiynau 1 i 3 eich cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at ddadansoddiad o’r amcangyfrif amser a ganlyn.
2023 (o 12 Mai 2023) = 2,211 cofnod x 4 munud = 147 awr
Cyfanswm amcangyfrif amser i gwblhau’r cais cyfan = 147 awr.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais er mwyn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Fodd bynnag, o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarparwyd uchod, mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn golygu y bydd yn cymryd llai nag 18 awr gan y bydd yn rhaid defnyddio’r un dull a’r un fformat. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Ewyllys da:
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu’r wybodaeth ganlynol, a hyderaf y bydd yn ddefnyddiol i chi. Nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Cwestiynau 1 i 3
Mae’r ddogfen atodedig yn cyflwyno’r data mewn fformat amrwd gan y bydd yn caniatáu i chi ei thrin i ddangos categorïau amrywiol o setiau data.
Sylwer: Mae’r data ar gyfer 2023, rhwng 1 Ionawr 2023 a 12 Mai 2023 yn unig.
Hefyd, yn anffodus ni allwn ddarparu data ar gyfer nifer y gyrwyr sy’n cael eu dal yn goryrru gan fan cyflymder symudol neu gamera sefydlog. Mae’n bosibl y bydd rhagor o fanylion ar gael drwy dîm partneriaeth GanBwyll. Gellir cysylltu â nhw drwy’r manylion isod:
GanBwyll
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch SP 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 5 Ebrill 2024)