Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 744/2023
Cais:
Ysgrifennaf atoch o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i ofyn am y canlynol.
1) Faint o droseddau yr adroddwyd amdanynt yn ystod y pedair blynedd galendr ddiwethaf (2020, 2021, 2022, 2023 hyd yn hyn) sydd wedi crybwyll "e-feiciau" neu "feiciau trydan"? Rhannwch hwn fesul blwyddyn.
2) Faint o ddamweiniau y mae’r heddlu wedi cael eu galw iddynt yn ystod y pedair blynedd galendr ddiwethaf (2020, 2021, 2022, 2023 hyd yn hyn) sydd wedi cynnwys "e-feiciau" neu "feiciau trydan"? Rhannwch hwn fesul blwyddyn a rhowch gymaint o fanylion â phosibl am natur y digwyddiad.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwestiwn 2 y cais hwn yn cael ei chadw neu beidio yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, felly rydym yn cadw’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ôl gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2), sef bod y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Mae cost cydymffurfio yn fwy na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i gwestiwn 2 eich cais yn uwch na’r swm lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb, h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i hadalw yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 2,627.50 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiwn 2 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw gan nad oes categori penodol ar y system berthnasol i ddynodi ‘e-feiciau’ neu ‘feiciau trydan’ mewn perthynas â gwrthdrawiadau ar y ffyrdd. Yn ogystal â hyn, ni allwn gwblhau chwiliadau allweddair ar y system berthnasol at ddibenion gorfodi’r gyfraith. Felly, er mwyn sefydlu pa wybodaeth, os o gwbl, a gedwir mewn perthynas â chwestiwn 2 o’r cais, byddai angen archwilio’n unigol yr holl ddigwyddiadau o dan y categori ‘gwrthdrawiad ar y ffyrdd’ dros yr amserlen a nodir i nodi a oedd y digwyddiad / gwrthdrawiad ar y ffyrdd yn cynnwys e-feic neu feic trydan. Mae wedi’i sefydlu ar gyfer y cyfnod a nodir yn y cais (h.y. 2020–2023) bod cyfanswm o 15,765 o ddigwyddiadau o dan y categori gwrthdrawiadau ar y ffyrdd y byddai angen ymchwilio iddynt. Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd lleiafswm o ddeg munud i ymchwilio i ddigwyddiad gwrthdrawiad traffig ar y ffyrdd i weld a yw’n berthnasol i gwestiwn 2 eich cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at y dadansoddiad o’r amcangyfrif amser a ganlyn.
2020 = 4,912 o ddigwyddiadau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ar 10 munud fesul digwyddiad = 818.67 awr
2021 = 2,693 o ddigwyddiadau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ar 10 munud fesul digwyddiad = 448.83 awr
2022 = 3,006 o ddigwyddiadau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ar 10 munud fesul digwyddiad = 501.00 awr
2023 = 5,154 o ddigwyddiadau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ar 10 munud fesul digwyddiad = 859.00 awr
Cyfanswm o 2,627.50 awr i gwblhau’r dasg
Sylwer: Ar hyn o bryd, ni allwn gadarnhau a oes modd adalw cwestiwn 1 o fewn y terfyn amser o 18 awr gan y byddai hyn yn dibynnu ar nifer y canlyniadau chwilio allweddair ar gyfer e-feic a beic trydan. Yna byddai angen adolygu pob cofnod trosedd cyfatebol o ganlyniad i chwiliad allweddair i wneud yn siŵr ei fod yn ymwneud ag e-feic a/neu feic trydan. Gan fod y cais eisoes yn llawer mwy na’r terfyn amser o 18 awr, nid yw’r broses uchod wedi’i chyflawni.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5), sef bod rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel bod yr amser a ddangosir uchod yn llai na 18 awr. Fodd bynnag, o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarparwyd uchod, mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn golygu y bydd yn cymryd llai na 18 awr gan y bydd yn rhaid defnyddio’r un dull a’r un fformat. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 9 Ebrill 2024)