Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 890/2023
Cais:
Sawl digwyddiad o ymgais i droseddu’n dreisgar, neu droseddau treisgar gwirioneddol, y mae eich heddlu wedi eu mynychu ar safle ysgol. Rhowch y ffigurau ar gyfer pob blwyddyn galendr ers 2015.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn ôl adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2) - mae cost cydymffurfio yn fwy na'r terfyn priodol - yn gwmws iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt) roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Mae cost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a ddelir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, hy mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd hwy na 18 awr (hy lleiafswm o 6,438 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r adran rhyddid gwybodaeth wedi ei hysbysu nad yw rhywfaint o’r wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Oherwydd newid yn systemau cofnodi'r heddlu nid yw'n hawdd adalw’r data a gofnodwyd ar ôl 12 Mai 2023 ar hyn o bryd, hyd nes y gellir cwblhau modelu data pellach. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais yn yr amserlen a bennwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu ac adolygu’r holl droseddau treisgar a gofnodwyd yn y cyfnod hwnnw i nodi’r rhai a ddigwyddodd ar safle ysgol.
Mae wedi’i nodi bod cyfanswm o 70,482 o ddigwyddiadau a 6,770 o droseddau trais yn erbyn y person yn cwmpasu rhan o’ch cais. Mae hefyd wedi'i nodi y byddai'n cymryd o leiaf pum munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â'ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae'r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
13/05/2023 – 21/09/2023 = 77,252 cofnod x 5 munud y cofnod = 6,438 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau'r dasg = 6,438 awr
Sylwer: Mae modd adalw ymateb rhannol i'ch cais o fewn y terfyn amser o 18 awr ac mae wedi'i amlinellu ar ddiwedd y ddogfen fel arwydd o ewyllys da a thu allan i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais er mwyn lleihau’r amser a ddangosir uchod i gymryd llai na 18 awr i gwblhau’r gwaith. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â chwestiwn 1 eich cais, y mae’n hawdd ei hadalw ac sy’n cael ei hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
|
Blwyddyn |
2017 |
2018 |
2019 |
2020 |
2021 |
2022 |
2023* |
Cyfanswm terfynol |
|
Cyfanswm |
242 |
263 |
295 |
135 |
262 |
442 |
164 |
1803 |
*Hyd at 12/05/2023.
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai cyffredinol, ac ni ddefnyddir y gweithdrefnau’n lleol ychwaith i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 18/04/2024)