Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 272/2024
Cais:
[Sylwer: Byddwn yn gobeithio y gellid cyflawni hyn trwy chwiliad cyfrifiadurol ar gyfer y modus operandi / maes crynodeb ymchwiliad gan ddefnyddio’r gair/geiriau ‘airbnb’, ‘air bnb’, ‘air-bnb’ ac ‘air bandb’.]
[Sylwer: Er mwyn osgoi esemptiad, rwy’n fodlon i’r enwau, oedrannau, daearyddiaeth neu unrhyw fanylion eraill gael eu hepgor i ganiatáu datgelu’r digwyddiad a sut mae’n berthnasol i Airbnb.]
Ymateb
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani; fodd bynnag, rydym yn esemptio rhan o’r wybodaeth honno gan ein bod yn credu bod yr esemptiad a ganlyn yn berthnasol:
Adran 30(1)(a) Ymchwiliadau ac achosion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus
Mae adran 30(1)(a) yn esemptiad amodol ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf NIWED mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, mae gofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd er mwyn sefydlu a allai budd cyhoeddus ehangach mewn datgelu fod yn drech na budd y cyhoedd o gynnal yr esemptiad.
Adran 30(1)(a) Ymchwiliadau ac achosion a gynhelir gan awdurdodau cyhoeddus:
(1) Mae gwybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus yn wybodaeth esempt os yw wedi ei chadw ar unrhyw adeg gan yr awdurdod at ddibenion –
(a) Unrhyw ymchwiliad y mae gan yr awdurdod cyhoeddus ddyletswydd i’w gynnal er mwyn canfod (i) a ddylai person gael ei gyhuddo o drosedd, neu (ii) a yw person sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn euog ohoni.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Byddai datgelu’r wybodaeth yn gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn rhoi boddhad i’r cyhoedd bod yr achosion hyn yn cael eu hymchwilio’n drylwyr, a bod troseddwyr yn cael eu trin yn unol â hynny.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Mae’r esemptiad hwn yn cynnwys gwybodaeth a gedwir ar unrhyw adeg at ddiben ymchwiliad, p’un a yw’r achos yn mynd rhagddo neu wedi’i gau neu rhoddwyd y gorau iddo. Gallai rhyddhau manylion penodol am ymchwiliad parhaus, fel yn yr achos hwn, danseilio a niweidio’r ymchwiliadau hynny. Byddai hyn yn effeithio ar alluoedd gorfodi’r gyfraith yr heddluoedd yn y dyfodol drwy rwystro atal neu ganfod trosedd.
Prawf cydbwysedd
Ar ôl ystyried manteision ac anfanteision datgelu, cyfrifoldeb Heddlu Dyfed–Powys yw cynnal prawf cydbwysedd ar y materion hyn. Mae angen pwyso a mesur y ddadl gryfaf dros ddatgelu, sef ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn erbyn y dadleuon cryfaf dros beidio â datgelu, sef, yn yr achos hwn, y byddai’r datganiad yn tanseilio ac yn niweidio ymchwiliadau parhaus, a fyddai’n effeithio ar alluoedd gorfodi’r gyfraith yr heddluoedd yn y dyfodol drwy rwystro atal neu ganfod trosedd.
Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Dwy drosedd lle cofnodwyd Airbnb fel elfen o’r drosedd.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Categori’r drosedd |
Nifer |
|
Cyfathrebu maleisus |
1 |
|
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
1 |
|
Cyfanswm |
2 |
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Crynodeb |
|
|
1 |
Mae’r un a ddrwgdybir wedi anfon negeseuon bygythiol at y dioddefwr, mewn perthynas â’i eiddo AirBnb. |
|
2 |
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
(i) 20 trosedd lle cofnodwyd TikTok fel elfen o’r drosedd.
(ii)
|
Categori’r drosedd |
Nifer |
|
Aflonyddu |
8 |
|
Cyfathrebu maleisus |
5 |
|
Trosedd rywiol |
3 |
|
Blacmel |
1 |
|
Torri gorchymyn i gadw rhag ymyrryd |
1 |
|
Meddu ar ddeunydd anllad |
1 |
|
Cyhoeddiadau anllad |
1 |
|
Cyfanswm |
20 |
iii)
|
Nifer |
Crynodeb |
|
1 |
Mae IP wedi bod yn derbyn negeseuon Snapchat yn dweud “KYS” (Kill yourself) ymhlith negeseuon a delweddau annymunol eraill. Mae un ddelwedd yn dangos pen IP wedi’i osod ar bidyn, ynghyd â delweddau a fideos eraill sydd wedi’u golygu a’u huwchlwytho i TikTok. |
|
2 |
Mae IP wedi cysylltu â’r heddlu i’w hysbysu bod ei phlentyn wedi anfon delweddau anweddus / rhywiol eglur at berson anhysbys dros yr ap ‘Likee’, ar ôl cael ei gwahardd o TikTok. |
|
3 |
Mae un a ddrwgdybir anhysbys wedi rhannu llun o IP ar TikTok gyda chapsiynau sarhaus yn ymwneud â chasineb. |
|
4 |
Mae IP yn adrodd ei bod wedi cael ei galw’n ‘slag’ ar TikTok, sydd wedi digwydd ar ddau achlysur. |
|
5 |
Mae IP wedi adrodd ei bod wedi cael ei haflonyddu gan fam cyn-gariad IP, wedi i honno roi fideo ar TikTok o frawd neu chwaer iau IP, ac mae IP yn teimlo dan fygythiad oherwydd galwadau ffôn rhwng y ddau. |
|
6 |
Mae IP wedi cwympo allan gyda sawl disgybl arall yn yr ysgol ac, ar yr achlysur hwn, mae postiad wedi’i wneud ar TikTok sydd wedi achosi i IP ymgwympo a bod angen ymyrraeth feddygol. |
|
7 |
Dywedodd IP fod ei phlentyn wedi derbyn nifer o negeseuon a fideos diangen dros TikTok yn ei galw hi’n enwau. |
|
8 |
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
|
9 |
Mae IP wedi derbyn negeseuon ar Facebook a TikTok gan gyn-bartner sydd â gorchymyn i gadw rhag ymyrryd yn ei erbyn. |
|
10 |
Esemptiad adran 30 yn gymwys |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 23 Ebrill 2024)