Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 296/2024
Cais:
1 – A oes gan eich heddlu uned treisio a throseddau rhywiol difrifol (RASSO) bwrpasol?
2 – Ar 11 Mawrth 2023, faint o swyddi gwag sydd gan eich heddlu ar gyfer swyddogion RASSO penodol (treisio a throseddau rhywiol difrifol)?
3 – Sawl swyddog yn eich heddlu sy'n destun ymchwiliad ar hyn o bryd am droseddau? Didolwch y rhain yn ôl y math o drosedd.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nid oes gan Heddlu Dyfed-Powys uned treisio a throseddau rhywiol difrifol (RASSO) bwrpasol. Fodd bynnag, aeth Tîm Bluestone yn fyw ym mis Mawrth 2024. Mae'r tîm hwn yn sefydlu cyswllt â dioddefwyr treisio sydd wedi dweud wrth rywun am y treisio (trydydd parti), yn hytrach na dymuno eu bod wedi adrodd amdano eu hunain i'r heddlu ar gyfer canlyniad cyfiawnder troseddol. Cyfeirir at ddigwyddiadau o’r fath fel rhai “dweud” yn hytrach nag “adrodd”. Bydd Tîm Bluestone yn cysylltu â’r dioddefwr drwy ymateb fideo os yw’n cydsynio i ddull cyswllt o’r fath. Bydd y tîm yn rhoi gwybod i’r dioddefwr am yr opsiynau sydd ar gael iddo, gan gynnig yr opsiwn o gael Cynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol i ymuno â'r alwad a darparu cefnogaeth. Bydd y tîm yn edrych ar y sefyllfa o safbwynt y dioddefwr. Os yw'r dioddefwr yn dymuno bwrw ymlaen i ddilyn canlyniad cyfiawnder troseddol, bydd y tîm yn cael adroddiad cychwynnol ac yna’n trosglwyddo'r ymchwiliad i’r Adran Ymchwilio i Droseddau. Byddant hefyd yn adolygu risg y sawl a ddrwgdybir ac ymarferoldeb gorchmynion sifil.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae gennym Ymgyrch Bluestone, sy'n delio â threisio a throseddau rhywiol difrifol (RASSO), ac o fewn y maes hwnnw mae gennym ddwy swydd wag ar hyn o bryd.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
4 = 3 x cam-drin domestig, 1 x ymosodiad rhywiol
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 18 Ebrill 2024)