Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 710/2023
Cais:
1) A oes gan eich cwnstabliaeth adran fforensig ddigidol?
2) Sut mae systemau deallusrwydd artiffisial yn cael eu hintegreiddio i weithrediadau pob dydd yr orsaf heddlu? A ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer atal troseddau, ymchwilio, neu at ddibenion eraill?
3) Pa gynlluniau sydd gan yr orsaf heddlu ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eu gweithrediadau yn y dyfodol, a sut maent yn rhagweld y bydd y dechnoleg yn newid?
4) A oes unrhyw bryderon neu amheuon ynghylch gweithredu sgwrsfotiaid fel rhan o weithgareddau plismona, megis pryderon am breifatrwydd neu ddiogelwch data?
5) A oes unrhyw ganllawiau neu bolisïau penodol sy’n rheoli’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial gan yr orsaf heddlu, ac a ydynt ar gael i’r cyhoedd?
6) A oes unrhyw ymchwil neu waith gwerthuso yn cael eu cynnal ar hyn o bryd mewn perthynas â thechnoleg sgwrsfotiaid deallusrwydd artiffisial i bennu ei fuddion posibl i adran yr heddlu?
7) A oes unrhyw ddatrysiadau neu dechnolegau eraill sydd wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial y mae’r adran yn eu hystyried er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau’r heddlu?
8) A fu unrhyw gyfyngiadau cyllidebol neu gyfyngiadau o ran adnoddau sydd wedi rhwystro’r heddlu rhag mabwysiadu sgwrsfotiaid deallusrwydd artiffisial?
9) A oes unrhyw achosion o ddefnydd penodol neu amgylchiadau lle mae adran yr heddlu yn rhagweld y bydd sgwrsfotiaid yn fuddiol yn y dyfodol?
10) Pa gamau fyddai angen eu cymryd i sicrhau bod sgwrsfotiaid deallusrwydd artiffisial a ddefnyddir gan adran yr heddlu yn cydymffurfio â safonau moesegol a chyfreithiol, yn enwedig o ystyried natur sensitif gweithgareddau plismona?
11) A fyddai adran yr heddlu yn barod i gydweithio ag endidau allanol, megis cwmnïau technoleg neu sefydliadau ymchwil, i archwilio gweithrediad sgwrsfotiaid deallusrwydd artiffisial mewn modd rheoledig a diogel?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Oes
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nid oes unrhyw systemau deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Dim cynlluniau penodol.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Oes – mae pryderon ynghylch preifatrwydd a diogelwch data, yn ogystal â chywirdeb yr wybodaeth a gofnodir a’r ymateb a ddarperir gan unrhyw sgwrsfotiaid.
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys wedi cynhyrchu unrhyw ganllawiau na pholisïau penodol.
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nac oes
Ymateb 7:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nac oes
Ymateb 8:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nac oes
Ymateb 9:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Dim byd wedi’i nodi.
Ymateb 10:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Dim byd wedi’i nodi hyd yma.
Ymateb 11:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Byddai, yn y dyfodol pan fydd prosiect yn cael ei nodi.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 8 Ebrill 2024)