Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 269/2024
Cais:
Darparwch yr holl ganlyniadau a gofnodwyd ar gyfer y troseddau hyn, neu ba ganlyniad bynnag a ddewiswch.
Ar gyfer y ddau gwestiwn uchod, os yn bosibl, a allwch chi ddweud pa sylwedd a ddefnyddiwyd/bygythiwyd ei ddefnyddio, ee cannydd cartref.
Os yn bosibl, darparwch yr holl ddata y gofynnwyd amdanynt wedi’u dadansoddi fesul blwyddyn yn ôl y flwyddyn galendr. Byddai’n well gennym fformat taenlen os yw’n bosibl.
Os nad yw’n bosibl darparu dadansoddiad fesul blwyddyn galendr, rhowch gyfanswm cyfunol ar gyfer y cynifer o flynyddoedd ag sydd ar gael gennych.
Cwestiynau yn ceisio eglurhad:
A ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Nodwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Mae digwyddiad yn gofnod o gyswllt a wneir â’r heddlu gan unigolyn/aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101) a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd fel y’i diffinnir gan y gyfraith.
A ydych yn cyfeirio at yr unigolion hynny y gorchmynnwyd iddynt ymddangos gerbron llys neu a gafwyd yn euog yn y llys?
Eglurhad fel a ganlyn:
Yr ateb i’ch dau gwestiwn fyddai y ddau, os yw’n bosibl. Felly, digwyddiadau a throseddau, ac unigolion y gorchmynnwyd iddynt ymddangos gerbron llys ac/neu a gafwyd yn euog yn y llys.
Ymateb
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a ddelir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 47,229 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw rhywfaint o’r wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith nad oes categori penodol i gofnodi ‘ymosodiadau asid’ ac nid yw rhai systemau yr heddlu yn caniatáu i chwiliadau allweddeiriau gael eu cynnal.
Mewn perthynas â digwyddiadau, nid yw’r system a ddefnyddir yn caniatáu i chwiliadau allweddeiriau gael eu cynnal, felly byddai angen holi ynghylch pob digwyddiad a gofnodwyd yn ystod y cyfnod amser penodedig yn unigol er mwyn canfod a oedd unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud ag ymosodiadau asid.
Mewn perthynas â throseddau cyn 2017, byddai angen holi ynghylch pob trosedd ‘trais ag anaf’ a ‘thrais yn erbyn yr unigolyn’ yn unigol er mwyn canfod a oedd unrhyw drosedd yn ymwneud ag ymosodiadau asid.
Canfuwyd bod yna gyfanswm o 566,748 o ddigwyddiadau. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf bum munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellir uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
|
Digwyddiadau – pob cwestiwn |
||
|
Blwyddyn |
Cyfanswm nifer y digwyddiadau a gofnodwyd |
|
|
Cyn 2020 |
Byddai amcangyfrif amser ychwanegol i’r isod yn berthnasol i’r blynyddoedd hyn |
|
|
2020 |
130,045 |
|
|
2021 |
136,328 |
|
|
2022 |
138,304 |
|
|
2023 |
153,402 |
|
|
CYFANSWM |
558,079 |
= 46,506.58 awr |
|
Troseddau – Cwestiynau 1 a 2 |
||
|
Blwyddyn |
Cyfanswm nifer y digwyddiadau a gofnodwyd |
|
|
2014 |
2,420 |
|
|
2015 |
2,915 |
|
|
2016 |
3,334 |
|
|
CYFANSWM |
8,669 |
= 722.42 awr |
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 47,229 awr
Troseddau (2017 – presennol)
Mae’r adran berthnasol wedi cynghori y gellir adalw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o fewn y terfyn amser priodol, h.y. 18 awr.
Yn unol felly â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 17 Ebrill 2024)