Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 720/2024
Cais:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae’r cwestiwn hwn yn eang ei natur. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi bod gan unigolyn anabledd os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol a bod y nam yn cael effaith sylweddol, andwyol a hirdymor ar weithgareddau dyddiol arferol yr unigolyn.O ganlyniad i hyn, bydd addasiadau yn cael eu teilwra i anghenion yr unigolyn.
Mae enghreifftiau nad ydynt yn hollgynhwysfawr yn amrywio o hygyrchedd pobl anabl i safleoedd yr heddlu, dulliau cysylltu – ffôn testun Relay UK, defnyddio cyfryngwyr ac eiriolwyr.
Mae’r trefniadau aml-asiantaethol ar gyfer diogelu’r cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hystyried a bod darpariaeth yn cael ei gwneud mewn perthynas â throseddwyr sy’n dioddef anabledd. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod ac yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn.
O ran y trefniadau aml-asiantaethol ar gyfer diogelu’r cyhoedd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth prawf a’r gwasanaethau iechyd meddwl i sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n hysbys am unigolyn a’i anghenion yn cael ei rhannu.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae’r trefniadau aml-asiantaethol ar gyfer cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hystyried a bod darpariaeth yn cael ei gwneud mewn perthynas â throseddwyr sy’n dioddef anabledd. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod ac yn cydymffurfio â’r gofynion hyn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn darparu’r hyfforddiant a’r adnoddau canlynol i swyddogion ymgysylltu â’r rheini sydd â materion niwroamrywiaeth:
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn hwyluso’r addasiadau rhesymol canlynol:
Defnyddio eiriolwyr
Defnyddir eiriolwyr i hwyluso cyfathrebu rhwng swyddogion ac unigolion.
Gofynion hysbysu syml
Gall Heddlu Dyfed-Powys ddarparu mynediad i fersiwn symlach o’r gofynion hysbysu am droseddwyr rhyw, i gynnwys lluniau.
Yn ogystal, byddwn yn darparu esboniadau llafar ynghyd â gwybodaeth yn ysgrifenedig, ac yn cymryd amser i egluro pethau’n araf a gwirio bod yr unigolyn yn deall.
Byddwn yn mynd drwy senarios gydag unigolion o ran y gofynion neu orchmynion hysbysu a allai fod yn berthnasol iddynt, fel bod ganddynt rai enghreifftiau bywyd go iawn i atgyfnerthu eu dealltwriaeth.
Rhannu gwybodaeth â phartneriaethau
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cysylltu â gwasanaethau gofal oedolion mewn perthynas ag asesiadau anghenion a sut i reoli hyn yn y gymuned yn y ffordd orau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cofrestru.
Trwy’r trefniadau aml-asiantaethol ar gyfer diogelu’r cyhoedd, mae Heddlu Dyfed-Powys yn adolygu’r wybodaeth sydd ar gael am bartneriaethau drwy rannu gwybodaeth, megis diagnosis o awtistiaeth, cynlluniau personol ac argymhellion ar gyfer cymorth, yn ogystal ag adroddiadau seiciatrig ac asesiadau iechyd meddwl.
Adolygiadau rheolaidd
Lle bo angen, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn adolygu’n rheolaidd ddealltwriaeth unigolyn o’i ofynion hysbysu neu orchmynion atal niwed rhywiol yn bersonol gydag ef. Anogir unigolion i ofyn cwestiynau os ydynt yn ansicr o unrhyw beth, darperir manylion cyswllt i’w galluogi i wirio gwybodaeth a sicrhau eu bod yn deall rhwng sesiynau cysywllt ffurfiol os oes angen. Gall swyddogion gwrdd â theulu neu ddarparwyr gofal, gyda chaniatâd yr unigolyn, i egluro unrhyw ofynion o’r fath i alluogi unigolion i gael eu cefnogi’n well.
Defnyddio asesiad ARMIDILO-S
Defnyddir asesiadau risg i hyrwyddo diogelwch y cyhoedd ac i arwain ar reolaeth y troseddwr. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r system rheoli risg gweithredol (ARMS) a rhagfynegydd aildroseddu rhywiol y system asesu troseddwyr (OASys) mewn perthynas â phob troseddwr rhyw cofrestredig.
Mae’r asesiad o reolaeth risg o ran unigolion â chyfyngiadau datblygiadol a deallusol sy’n troseddu’n rhywiol (ARMIDILO-S) yn offeryn adolygu risg a rheoli cymunedol a ddyluniwyd i’w ddefnyddio gydag oedolion â nam gwybyddol a ddefnyddir gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae ARMIDILO-S wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gyda dynion 18 oed a hŷn sydd wedi cyflawni ymddygiad troseddol rhywiol, p’un a oes dyfarniad ai peidio, ac sydd ag anabledd deallusol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 26 Gorffennaf 2024)