Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 676/2024
Cais:
---------------------------------------
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:–
Ymateb i C1
Byddai presenoldeb yn dibynnu ar yr wybodaeth a gawsom gan y cymydog. Byddai pob digwyddiad yn cael ei asesu'n ddynamig yn unigol ac yn cael ei drin yn briodol.
Ymateb i C2
Byddai presenoldeb yn dibynnu ar yr wybodaeth a gawsom gan y cymydog. Byddai pob digwyddiad yn cael ei asesu'n ddynamig yn unigol ac yn cael ei drin yn briodol.
Byddai gwiriadau cudd-wybodaeth a chofnodion o alwadau blaenorol i’r cyfeiriad yn cael eu cynnal.
Ymateb i C3
Byddai pob adroddiad unigol yn cael ei asesu'n unigol o ran risg, yn cael ei ymchwilio iddo, ac yn cael ei drin fesul achos.
Ymateb i C4
Byddai gwiriadau o alwadau blaenorol yn cael eu cynnal, y ‘gallai’ amlygu patrwm o ymddygiad.
Gall systemau’r heddlu gadw sylwadau ar gyfeiriadau sy’n rhoi gwybodaeth am alwyr rheolaidd / galwyr ffug / galwyr maleisus.
Byddai adroddiadau'n cael eu cymryd a'u hasesu o ran risg yn unigol, a’u graddio a'u categoreiddio ar system yr heddlu fel y gall swyddogion yr adran ymdrin â nhw.
Ymateb i C5
Mae adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol yn rhoi'r pŵer i'r heddlu fynd i mewn i eiddo, ond dim ond i achub bywyd ac i atal difrod difrifol i eiddo.
Nid oes unrhyw bŵer mynediad yn bodoli i gynnal ‘gwiriadau lles’*.
*Gweler yr atodiad isod am ragor o fanylion am y polisi gwirio lles cyfredol (o 2018)
(Sylwer bod y polisi hwn yn y broses o gael ei ailysgrifennu. Bydd y polisi Gofal Cywir, Person Cywir yn disodli hyn a bydd ar gael drwy'r cynllun cyhoeddi yn y misoedd nesaf).
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 29 Gorffennaf 2024)