Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 529/2024
Cais:
1a) Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 – 2024, rhowch gyfanswm y gynnau taser a brynwyd gan yr heddlu, ac ar wahân, cyfanswm y cetris taser a brynwyd.
1b) Faint o arian mewn punnoedd Prydeinig a wnaeth yr heddlu ei wario ar brynu gynnau dyfeisiadau taser, dyfeisiadau dargludo ynni neu gyfwerth, a chetris taser yn y flwyddyn ariannol 2023 – 2024? Gwahanwch y data hwn i’r cyfanswm a wariwyd ar ynnau taser, a’r cyfanswm a wariwyd ar getris os yn bosibl, os gwelwch yn dda.
2a) Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 – 2023, rhowch gyfanswm y gynnau taser a brynwyd gan yr heddlu, ac ar wahân, cyfanswm y cetris taser a brynwyd.
2b) Faint o arian mewn punnoedd Prydeinig a wnaeth yr heddlu ei wario ar brynu gynnau taser, dyfeisiadau dargludo ynni neu gyfwerth, a chetris taser yn y flwyddyn ariannol 2022 – 2023? Gwahanwch y data hwn i’r cyfanswm a wariwyd ar ynnau taser, a’r cyfanswm a wariwyd ar getris os yn bosibl, os gwelwch yn dda.
3a) Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 – 2022, rhowch gyfanswm y gynnau taser a brynwyd gan yr heddlu, ac ar wahân, cyfanswm y cetris taser a brynwyd.
3b) Faint o arian mewn punnoedd Prydeinig a wnaeth yr heddlu ei wario ar brynu gynnau taser, dyfeisiadau dargludo ynni neu gyfwerth, a chetris taser yn y flwyddyn ariannol 2021 – 2022? Gwahanwch y data hwn i’r cyfanswm a wariwyd ar ynnau taser, a’r cyfanswm a wariwyd ar getris os yn bosibl, os gwelwch yn dda.
Eglurhad:
Er eglurder, hoffwn wybod sawl taser a brynwyd gennych yn y flwyddyn ariannol berthnasol, faint o getris a brynwyd gennych, a chyfanswm cost y rhain ar gyfer pob blwyddyn ariannol a nodwyd.
Ymateb 1a, 2a a 3a
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ymateb 1 a)- Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024, ni phrynodd Heddlu Dyfed-Powys unrhyw ddyfeisiadau dargludo ynni (CEDi) (nid gynnau mohonynt). Prynodd yr heddlu 950 o getris cyswllt meddal a 1650 o getris clyfar FT ac mae’r ddau yn cael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi. Cyfanswm y cetris byw oedd 1050 a ddosbarthwyd ar draws yr heddlu gan gynnwys ar gyfer hyfforddiant.
Ymateb 2 a)- Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/2023, ni phrynodd Heddlu Dyfed-Powys unrhyw ddyfeisiadau dargludo ynni. Prynodd yr Heddlu 700 o getris cyswllt meddal a 2,550 o getris clyfar FT ac mae’r ddau yn cael eu defnyddio at ddibenion hyfforddi. Cyfanswm y cetris byw oedd 0.
Ymateb 3 a) - Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/2022, ni phrynodd Heddlu Dyfed-Powys unrhyw ddyfeisiadau dargludo ynni. Prynodd yr Heddlu 1000 o getris cyswllt meddal, 2000 o getris clyfar FT, a 24 o getris efelychu anadweithiol. Defnyddir y cetris hyn i gyd at ddibenion hyfforddi. Cyfanswm y cetris byw oedd 0.
Ymatebion 1b, 2b a 3b:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond rydym yn cadw’r wybodaeth honno’n ôl gan ein bod yn ystyried bod yr esemptiad a ganlyn yn gymwys iddi:
Adran 43(2) Buddiannau masnachol
“(2) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y ddeddf hon yn niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sy’n ei chadw), neu’n debygol o wneud hynny.”
Mae hwn yn esemptiad amodol sy’n seiliedig ar ddosbarth. Fel esemptiad sy’n seiliedig ar ddosbarth, mae deddfwyr eisoes wedi derbyn y niwed wrth ryddhau’r dosbarth hwn o wybodaeth. O ganlyniad, nid oes gofyniad i ddangos tystiolaeth o’r niwed wrth ddatgelu gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, gan fod yr esemptiad yn esemptiad amodol, mae gofyniad i gymhwyso prawf budd y cyhoedd, fel y manylir isod.
Prawf budd y cyhoedd:
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae gofyniad i roi gwell dealltwriaeth i’r cyhoedd o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario. Un o egwyddorion sylfaenol y ddeddf yw’r angen i fod yn agored ac yn dryloyw. Yn yr achos hwn, mae penderfynu a ydyw Heddlu Dyfed-Powys wedi negodi cyfraddau cystadleuol mewn perthynas â phrynu dyfeisiadau taser a chetris o fudd i’r cyhoedd.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Yn yr achos hwn, byddai rhyddhau manylion yn ymwneud â’r swm a wariwyd ar ddyfeisiadau taser a chetris yn debygol o niweidio buddiannau masnachol y cyflenwr presennol drwy effeithio’n andwyol ar ei sefyllfa fargeinio yn ystod trafodaethau cytundebol a fyddai’n arwain at ddefnydd llai effeithiol o arian cyhoeddus.
Byddai darparu manylion mewn perthynas â gwerth y contract a/neu gost dyfeisiadau nid yn unig yn niweidio buddiannau masnachol y cwmni/cyflenwr ond hefyd buddiannau masnachol Heddlu Dyfed-Powys, gan y gallai rhyddhau’r wybodaeth hon effeithio ar gystadleurwydd y contract hefyd, a fyddai yn ei dro yn effeithio ar y berthynas sydd gan yr heddlu â’r cwmnïau/cyflenwyr a allai arwain at achos sifil gan drydydd parti. At hynny, gallai datgelu’r swm a wariwyd atal Heddlu Dyfed-Powys rhag gallu negodi contract sydd o’r budd mwyaf.
Prawf cydbwysedd:
Wrth gydbwyso prawf budd y cyhoedd, mae’n rhaid i ni ystyried a ddylai’r wybodaeth gael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus. Mae angen pwyso a mesur manteision ac anfanteision datgelu yn erbyn ei gilydd. Yn yr achos hwn, defnyddir arian cyhoeddus, sydd felly o blaid datgelu, ac y mae angen ei bwyso a’i fesur yn erbyn y difrod a fyddai’n digwydd i unrhyw broses dendro barhaus neu yn y dyfodol a buddiannau masnachol trydydd parti.
Drwy ryddhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae’n bosibl y bydd buddiannau masnachol busnes ac unigolion yn cael eu peryglu, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â’r berthynas sydd gan Heddlu Dyfed-Powys â’r cwmni/cyflenwr neu’r unigolion hynny. Felly, mae’r ffactor sydd o blaid peidio â datgelu, sef y byddai niwed yn digwydd i unrhyw broses dendro yn y dyfodol a buddiannau masnachol trydydd partïon yn drech na’r ffactor o blaid datgelu, sef gwell dealltwriaeth o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.
Fel y cyfryw, mae budd y cyhoedd o blaid peidio â datgelu’r wybodaeth ar hyn o bryd. Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 10 Gorffennaf 2024)