Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 197/2024
Cais:
Rwy’n cyflwyno’r cais hwn i ddarganfod:
- cyfran y cyfweliadau gwirfoddol a gynhaliwyd gyda phlant ym mhob blwyddyn galendr rhwng 2019 a 2023 (cyfanswm o 5 mlynedd) yn ardal Heddlu Dyfed-Powys,
- gwybodaeth am achosion unigol a amlinellir isod:
*oed y cyfwelai,
*y math o drosedd a/neu gategori difrifoldeb,
*a ofynnwyd am gynghorydd cyfreithiol ar gyfer y cyfwelai a/neu a oedd yn bresennol yn ystod y cyfweliad,
*a oedd y trefniadau diogelu oedolyn priodol yn berthnasol ac a oedd oedolyn priodol yn bresennol yn ystod y cyfweliad, (os oedd oedolyn priodol yn bresennol, byddai gwybodaeth ynghylch a oedd yn rhiant/gwarcheidwad, yn wirfoddolwr, yn weithiwr cymdeithasol, neu’n weithiwr tîm troseddau ieuenctid yn ddymunol),
*beth oedd canlyniad y cyfweliad gwirfoddol (dim gweithredu pellach, arestio, cyhuddo/dim cyhuddiad, dargyfeirio cyn y llys, rhybudd, siars ac ati).
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn Adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) - Esemptiad, lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi’r ceisydd sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a ddelir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “terfyn priodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 1,253 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn sefydlu pa wybodaeth, os o gwbl, a gedwir mewn perthynas â’r cais byddai angen archwilio’n unigol yr holl systemau recordio cyfweliadau digidol i nodi a oes unrhyw gyfweliadau gwirfoddol gyda phlant wedi’u cynnal yn ystod y cyfnod dan sylw. Canfuwyd bod cyfanswm o 15,032 o gyfweliadau presenoldeb gwirfoddol y byddai angen eu harchwilio er mwyn canfod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani ar gyfer y cyfnod a nodir yn y cais. Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd o leiaf 5 munud i ymchwilio i un cyfweliad i weld a yw’n berthnasol i’ch cais fel yr amlinellwyd uchod, gan arwain at yr amcangyfrif amser canlynol.
Blwyddyn |
Cyfanswm y cyfweliadau presenoldeb gwirfoddol |
X munud |
Cyfanswm munudau |
Cyfanswm oriau |
2019 |
4,123 |
5 |
20,615 |
344 |
2020 |
3,425 |
5 |
17,125 |
285 |
2021 |
3,597 |
5 |
17,985 |
300 |
2022 |
2,648 |
5 |
13,240 |
221 |
2023 |
1,239 |
5 |
6,195 |
103 |
Cyfanswm o 1,253 awr i gwblhau’r dasg.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan Adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais er mwyn lleihau’r amser a ddangosir uchod fel ei bod yn cymryd llai na 18 awr i gwblhau’r gwaith. Fodd bynnag, o ystyried yr amcangyfrif amser a ddarparwyd uchod, mae’n annhebygol y bydd mireinio’ch cais yn golygu y bydd yn cymryd llai nag 18 awr gan y bydd yn rhaid defnyddio’r un dull a’r un fformat. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 1 Gorffennaf 2024)