Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 702/2024
Cais:
Nifer yr adroddiadau o fwrgleriaethau, nifer y cyhuddiadau o fwrgleriaeth a nifer yr erlyniadau bwrgleriaeth bob blwyddyn rhwng 2018 a 2024 (ar gyfer 2024, yr wybodaeth gywir hyd at, ac ar 20 Mai).
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Gweler y ddogfen PDF wedi’i diweddaru ynghlwm.
Cais gan yr ymgeisydd – “Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn gallu rhoi unrhyw gyngor a chymorth pellach ar unrhyw ffyrdd y gallaf mireinio fy nghais” –
Os hoffech gael dadansoddiad o ganlyniadau bwrgleriaeth, fel y darperir gan Heddlu Gogledd Cymru, yn y dyfodol byddai angen i chi nodi hynny yn y cais cychwynnol i sicrhau bod yr union ddata yn cael eu darparu:
Nifer yr adroddiadau o fwrgleriaethau, dadansoddiad o ganlyniadau bwrgleriaeth gan gynnwys cyhuddiadau a nifer yr erlyniadau bwrgleriaeth bob blwyddyn.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 23 Gorffennaf 2024)