Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 582/2024
Cais:
Ysgrifennaf atoch o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i ofyn am wybodaeth ynghylch y defnydd eich heddlu o gytiau cŵn dan gontract preifat ar gyfer cŵn a atafaelwyd o dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.
Yn benodol, mae gennyf ddiddordeb deall sut mae cytiau cŵn dan gontract yn cael eu dewis, sut y caiff lles cŵn ei fonitro, amlder ymweliadau gan Swyddogion Deddfwriaeth Cŵn yn ogystal â’r darpariaethau ar gyfer cŵn na allant gael ymarfer corff bob dydd o bosibl y tu allan i’w cytiau.
Ydym ☐ Nac ydym ☐
Os nad ydych, pa ganllawiau ydych chi'n eu defnyddio wrth ddewis cytiau dan gontract ac wrth fonitro lles cŵn o fewn cytiau cŵn dan gontract?
Cytiau cŵn heddlu Ydyn ☐ Nac ydyn ☐ Sawl lle sydd ar gael:
Cytiau preifat Ydyn ☐ Nac ydyn ☐ Sawl lle sydd ar gael:
Amlder ymweliadau
Ymweliadau awdurdod atafaelu
Dyddiol ☐
Wythnosol ☐
Bob yn ail wythnos ☐
Misol ☐
Llai aml na misol ☐
Arall (nodwch) ☐
Ymweliadau milfeddyg
Dyddiol ☐
Wythnosol ☐
Bob yn ail wythnos ☐
Misol ☐
Llai aml na misol ☐
Arall (nodwch) ☐
Sylwadau
Ydyn ☐ Nac ydyn ☐
Os nad ydynt, beth yw'r pellter i'r cytiau o'r man atafaelu?
Os ydych, a allwch roi enghraifft o hyn?
Oes ☐ Nac oes ☐
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ymateb i C1-
Mae pob un o’r cytiau a ddefnyddir wedi'i achredu trwy eu hawdurdod lleol priodol.
Mae pob gweithiwr yn cael ei fetio gan Heddlu Dyfed-Powys.
RHAID i unrhyw ddogfennaeth ynghylch trwyddedu ac yswiriant gael ei darparu gan unrhyw gytiau dan gontract.
Ymateb i C2
Defnyddir cytiau preifat. Nid yw nifer eu lleoedd yn hysbys oherwydd eu bod yn gytiau preifat.
Ymateb i C3
Mae trefniadau digonol ar waith gyda’n cytiau dan gontract i sicrhau nad yw capasiti yn cyrraedd ei derfyn.
Ymateb i C4
Caiff pob ci ei wirio gan Swyddogion Deddfwriaeth Cŵn ar bob ymweliad â chytiau dan gontract. Fel isafswm, cynhelir gwiriadau misol.
Cynhelir ymweliadau milfeddygol yn ôl yr angen. Bydd cŵn heb unrhyw brawf o frechu yn cael ymweliad cychwynnol i sicrhau bod y brechiadau’n gyfredol. Byddai unrhyw ymweliadau dilynol gan filfeddyg yn cael eu gwneud ar gais staff y cytiau/Swyddogion Deddfwriaeth Cŵn
Ymateb i C5
Ydyn. Defnyddir cytiau preifat o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Ymateb i C6
Ydyn – ar gais y perchennog.
Byddai bwyd ci arbenigol yn cael ei gasglu oddi wrth y perchennog a'i gludo i'r cytiau cŵn gan swyddogion trin cŵn lleol.
Ymateb i C7
Mae gan bob un o’r cytiau a ddefnyddir le pwrpasol i’r cŵn gael ymarfer corff yn unigol.
Ymateb i C8
Mae hyn yn ôl disgresiwn staff y cytiau.
Gellir prynu unrhyw eitemau y mae rheolwyr y cytiau yn dymuno eu prynu i’r cŵn allu perfformio ymddygiad naturiol a chodir tâl ar Heddlu Dyfed-Powys.
Ymateb i C9
Gall Swyddogion Deddfwriaeth Cŵn ofyn am unrhyw asesiad ynghylch ymddygiad neu anghenion lles.
Ymateb i C10
Gall perchennog y ci ddarparu bwyd arbenigol iddo.
Gall y perchennog ddarparu meddyginiaethau gan eu milfeddyg eu hunain.
Rhoddir triniaeth chwain, trogod a llyngyr a brechiadau yn y cytiau.
Gall milfeddyg y cytiau ddarparu meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau a ddatblygir tra yn y cytiau.
Teganau ac ati - Mae hyn yn ôl disgresiwn staff y cytiau.
Gellir prynu unrhyw eitemau y mae rheolwyr y cytiau yn dymuno eu prynu i’r cŵn allu perfformio ymddygiad naturiol a chodir tâl ar Heddlu Dyfed-Powys.
Mae dillad gwely yn dibynnu ar ymddygiad y ci.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 31 Gorffennaf 2024)