Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 706/2024
Cais:
Eglurhad:
Mae ‘fêps / e-sigaréts wedi’u sbeicio' yn fêps sydd wedi’u diferu â sylweddau fel, ond heb fod yn gyfyngedig i; LSD wedi’i anweddu, mariwana synthetig, neu gyffuriau lleddfu poen, a all arwain at oblygiadau iechyd difrifol. Mae enghreifftiau o sbeicio yn cynnwys; ychwanegu sylweddau at gynnyrch heb yn wybod i’r dioddefwr a/neu heb ei ganiatâd.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae hyn oherwydd nad yw hwn yn drosedd hysbysadwy.
Sylwer y gall awdurdodau lleol gadw gwybodaeth mewn perthynas â’r cwestiwn hwn ac efallai y byddwch am wneud ymholiadau gyda nhw drwy’r dolenni canlynol:
Sir Gaerfyrddin - Rhyddid Gwybodaeth (llyw.cymru)
Powys - Gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth (neu EIR) - Cyngor Sir Powys
Ceredigion - Rhyddid Gwybodaeth - Cyngor Sir Ceredigion
Sir Benfro - Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol - Cyngor Sir Penfro
Ymateb 2:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) ‘Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol’, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth wedi’i hesemptio), roi i chi, y ceisydd, hysbysiad sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth sy’n cael ei chadw, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 962 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Felly, er mwyn sefydlu pa wybodaeth, os o gwbl, a gedwir mewn perthynas â chwestiwn 2 y cais byddai angen archwilio yn unigol yr holl ddigwyddiadau o dan gategorïau lluosog dros yr amserlen a nodwyd i nodi a oedd unrhyw ddigwyddiadau dan sylw yn ymwneud â’ch cais.
Canfuwyd bod cyfanswm o 5,772 o ddigwyddiadau yn cwmpasu cyfnod eich cais. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf 10 munud i gael ac adolygu’r wybodaeth ar gyfer un digwyddiad mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Byddai’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser a geir isod.
2066 digwyddiad o drosedd ymosodiad x 10 munud = 344 awr
2748 digwyddiad o ddiogelwch y cyhoedd x 10 munud = 458 awr
175 digwyddiad o drosedd cyffuriau x 10 munud = 29 awr
783 digwyddiad o drosedd rhyw x 10 munud = 131 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 962 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn gymwys.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 31 Gorffennaf 2024)