Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 696/2024
Cais:
A allwch ddarparu gwybodaeth i'r cwestiynau canlynol, gydag atebion o Ionawr 2020 hyd at y presennol:
2a. Pa mor aml mae hyfforddiant i fod i gael ei gyflawni gan staff?
2b. A oes gan yr heddlu unrhyw staff sydd wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl a chymorth cyntaf hunanladdiad?
2c. Os atebwyd oes i 2b, dadansoddwch y nifer fesul rheng.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1) (b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn cadw’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ôl gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(1), sef bod y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Mae cost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1 (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os yw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 26 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a nodwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu ac adolygu’r holl ddata hyfforddi o feysydd dysgu penodol a chysylltu â gweinyddwyr hyfforddiant, a byddai'n rhaid i bob maes dysgu gael ei adolygu â llaw i ganfod atebion i'ch cwestiynau.
Mae wedi'i nodi bod cyfanswm o saith maes dysgu a phum gweinyddwr hyfforddi sy'n cwmpasu cyfnod eich cais. Mae hefyd wedi'i nodi y byddai'n cymryd o leiaf un awr i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer maes dysgu mewn perthynas â'ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Byddai’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser a geir isod.
Pedair blynedd o ddata hyfforddiant o’r meysydd dysgu canlynol:
Hyfforddiant cychwynnol - 3 awr.
Hyfforddiant CID - 2 awr.
Hyfforddiant SCCH - 2 awr.
Hyfforddiant rhanbarthol - 3 awr.
Hyfforddiant trosglwyddai - 1 awr.
Pecynnau hyfforddi electronig - 1 awr.
Hyfforddiant Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu - 3 awr.
Bydd angen cysylltu â’r bobl isod hefyd:
Cydlynydd iechyd meddwl - 3 awr.
Arweinydd cymorth cyntaf - 2 awr.
Gweinyddwr College Learn ar gyfer data - 2 awr.
Gweinyddwr Trent ar gyfer data - 2 awr.
Adolygu a gwirio'r ffurflen wedi'i chwblhau - 2 awr.
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 26 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5), sef bod rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdodau cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 23 Gorffennaf 2024)