Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 549/2024
Cais:
1/ a yw eich heddlu yn cadw at adran 20 Deddf Mewnfudo a Lloches 1999, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu gysylltu â/hysbysu adran Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref (HOIE), yr Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU) a fydd yn cynghori’r swyddog i arestio at ddibenion mewnfudo. Mae’n ofynnol i swyddogion gyflwyno ffurflen Cyfnewid Euogfarnau Troseddol Ryngwladol (ICCE) os bydd euogfarnau troseddwyr mewn gwlad dramor yn cael eu dosbarthu fel niwed uchel i gymunedau’r DU. Bydd hyn yn cael ei gyfeirio at HOIE i ystyried allgludo, symud ymaith neu gwtogi arhosiad, ar sail misol.
2/ faint o wladolion tramor sydd wedi cael eu harestio bob mis yn ystod y 12 mis diwethaf.
3/ faint o geiswyr lloches/ffoaduriaid sydd wedi cael eu harestio bob mis yn ystod y 12 mis diwethaf.
4/ pa fath o droseddau a gyflawnwyd gan geiswyr lloches/ffoaduriaid sydd wedi cael eu harestio bob mis yn ystod y 12 mis diwethaf.
5/ a ydych yn hysbysu adran Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref (HOIE) a’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU) am y math o drosedd a gyflawnwyd gan geiswyr lloches/ffoaduriaid yr ydych wedi’u harestio ym mhob ffigurau misol a ddarparwyd gan eich heddlu dros y 12 mis diwethaf.
6/ a ydych yn hysbysu adran Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref (HOIE) a’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU) pan fydd eich heddlu yn arestio ceiswyr lloches/ffoaduriaid ym mhob ffigurau misol a ddarparwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
pan fyddwch yn arestio ceisiwr lloches/ffoadur
7/ pa fath o droseddau y mae gwladolion tramor sydd wedi'u harestio bob mis yn ystod y 12 mis diwethaf wedi'u cyflawni.
8/ faint o geisiadau rhyddid gwybodaeth y mae eich heddlu wedi'u cael yn ystod y 12 mis diwethaf.
9/ faint o geisiadau rhyddid gwybodaeth a wrthodwyd gan eich heddlu yn ystod y 12 mis diwethaf.
10/ faint o adolygiadau mewnol sydd wedi gwrthdroi ceisiadau rhyddid gwybodaeth a wrthodwyd gan eich heddlu.
11/ faint o geisiadau rhyddid gwybodaeth a wrthodwyd sydd wedi'u gwrthdroi gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
12/ a yw eich heddlu yn hysbysu adran Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref (HOIE) am ddata ar arestio ceiswyr lloches/ffoaduriaid a’r troseddau a arweiniodd at eu harestio i asesu eu hawl i loches i fod yn siŵr nad yw dinasyddiaeth Brydeinig neu ganiatâd i aros yn cael ei rhoi i bobl a allai fod yn fygythiad i ddinasyddion Prydeinig neu i gyflawni troseddau pellach ac a yw’r wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo at adran Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref yn fisol.
13/ a yw eich heddlu wedi hysbysu Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref o'r arestiad a'r troseddau a gyflawnwyd gan wladolion tramor fel y mae'n ofynnol i chi ei wneud yn fisol.
14/ a yw eich heddlu yn hysbysu adran Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref (HOIE) a'r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU) am arestio gwladolion tramor gan eich heddlu bob mis yn ystod y 12 mis diwethaf.
15/ a yw eich heddlu yn hysbysu adran Gorfodaeth Mewnfudo y Swyddfa Gartref (HOIE) a'r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU) am y math o droseddau a gyflawnwyd gan wladolion tramor y mae eich heddlu wedi'u harestio yn eich ffigurau misol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn hysbysu adran ymfudo’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU).
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
815 Arestiad.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan nad yw’r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan nad yw’r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi.
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn hysbysu adran ymfudo’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU).
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn hysbysu adran ymfudo’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU).
Ymateb 7:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Dyma’r troseddau mwyaf cyffredin yn ystod pob mis o’r 12 mis diwethaf:
Mehefin 2023 – Ymosodiad
Gorffennaf 2023 – Ymosodiad
Awst 2023 – Troseddau cyffuriau
Medi 2023 – Troseddau cyffuriau
Hydref 2023 – Ymosodiad
Tachwedd 2023 – Ymosodiad
Rhagfyr 2023 – Ymosodiad
Ionawr 2024 – Ymosodiad
Chwefror 2024 – Ymosodiad
Mawrth 2024 – Ymosodiad
Ebrill 2024 – Ymosodiad
Mai 2024 – Ymosodiad
Ymateb 8:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
1207
Ymateb 9:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
175
Sylwch ein bod wedi “gwrthod” y ceisiadau hyn am y rhesymau canlynol:
Heb fod yn gais rhyddid gwybodaeth = naill ai darperir dolen yn cyfeirio’r ceisydd at yr wybodaeth y gofynnwyd amdani neu darperir ymateb i gais blaenorol tebyg i’r ceisydd.
Busnes Fel Arfer = swyddog/adran yn ymateb yn uniongyrchol i'r ymgeisydd oherwydd natur benodol y cais.
Peidio â rhyddhau = cais cyfan yn esempt, rhoddir esboniad i'r ceisydd o'r esemptiad(au).
Ymateb 10:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
11
Ymateb 11:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
0
Ymateb 12:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn hysbysu adran ymfudo’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU).
Ymateb 13:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn hysbysu adran ymfudo’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU).
Ymateb 14:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn hysbysu adran ymfudo’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU).
Ymateb 15:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydym, rydym yn hysbysu adran ymfudo’r Uned Gorchymyn a Rheoli Cenedlaethol (NCCU).
Dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 1 Gorffennaf 2024)