Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 574/2024
Cais:
1) Sawl lladdiad domestig benywaidd a fu lle lladdwyd menyw gan bartner/cyn bartner neu berthynas yn ystod y blynyddoedd
2020-2021, 2021-2022, 2022-2023, 2023-2204 (hyd yn hyn) ( er eglurhad gyda chofnod cam-drin domestig)
(2) Rhowch nifer y merched a laddwyd gan bartner/cyn-bartner/perthynas a gafodd gysylltiad blaenorol â’ch heddlu yn y 12 mis cyn eu marwolaeth (er eglurhad gyda chofnod cam-drin domestig).
Rhowch ddadansoddiad blynyddol o 2018 i 2024 hyd yn hyn.
(3) Darparwch ffigurau goroeswyr trais domestig benywaidd yr oedd eich heddlu yn eu graddio fel risg uchel. Rhowch y ffigur fel dadansoddiad blynyddol o 2018 i 2024 hyd yn hyn
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Blwyddyn |
Lladdiad domestig |
|
2020 – 2021 |
1 |
|
2021 – 2022 |
0 |
|
2022 – 2023 |
0 |
|
2023 – 2024 |
0 |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd bod cyfanswm o sero (0) o fenywod a laddwyd gan bartner/cyn-bartner/perthynas a gafodd gysylltiad blaenorol â Heddlu Dyfed-Powys yn yr ardal 12 mis cyn eu marwolaeth.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Troseddau domestig risg uchel |
|
|
Blwyddyn |
Benyw |
|
2018 |
206 |
|
2019 |
213 |
|
2020 |
207 |
|
2021 |
164 |
|
2022 |
126 |
|
2023 |
272 |
|
2024 (hyd at 30 Mehefin 2024) |
315 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddau i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, na chwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Gorffennaf 2024)