Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 707/2024
Cais:
Hoffwn wybod pa feysydd sy’n cael eu cadw mewn fformat y gellir ei adfer yn hawdd’ er mwyn fy ngalluogi i gael data ystyrlon
Yn y cyfamser, darparwch y canlynol sydd, trwy gyfeirio at eich ymatebion, ar gael, y gellir eu darparu ac sy’n bodloni’r esemptiad cost heb gyfyngu ar y cyfnod amser (eich unig awgrym)
a) Mis/blwyddyn y lladrad
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae’r adran sy’n gyfrifol am ddarparu’r wybodaeth wedi datgan bod gwall wrth gyfrifo’r data a oedd yn nodi bod cyfanswm o 660 o achosion o ladrad cerbydau modur rhwng 1 Ionawr 2023 a 30 Ebrill 2024.
Roedd y 660 o achosion a nodwyd yn fy ymateb rhyddid gwybodaeth ar gyfer pob trosedd cerbyd modur, gan gynnwys lladrad cerbydau. Mae’r adran bellach wedi datgan mai’r ffigwr cywir ar gyfer achosion o ladrad cerbydau modur yw 294.
Mae dadansoddiad o’r achosion o ladrad cerbydau modur, cynhwysol, fis ar ôl mis fel a ganlyn:
|
DYDDIAD |
NIFER Y LLADRADAU CERBYDAU MODUR |
|
Ion-23 |
16 |
|
Chwe-23 |
15 |
|
Maw-23 |
15 |
|
Ebr-23 |
21 |
|
Mai-23 |
9 |
|
Meh-23 |
17 |
|
Gorff-23 |
26 |
|
Awst-23 |
17 |
|
Medi-23 |
13 |
|
Hyd-23 |
21 |
|
Tach-23 |
13 |
|
Rhag-23 |
20 |
|
Ion-24 |
28 |
|
Chwe-24 |
27 |
|
Maw-24 |
17 |
|
Ebr-24 |
19 |
Mae’r meysydd sy’n cael eu cadw mewn fformat ’adferadwy hawdd’ fel a ganlyn:
|
Cyfeirnod Niche |
|
Dyddiad trosedd |
|
Dyddiad adrodd |
|
Trosedd > Amser a adroddwyd |
|
Dyddiad dosbarthu cychwynnol |
|
Dyddiad dosbarthu diweddaraf |
|
Cyfeiriad digwyddiad |
|
Ardal blismona lleol |
|
Ardal arolygydd |
|
Cod adran |
|
Enw rownd |
|
Cod rownd |
|
Lledred |
|
Hydred |
|
Categori’r Swyddfa Gartref |
|
Grŵp cod y Swyddfa Gartref |
|
Is-gategori’r Swyddfa Gartref |
|
Trosedd |
|
Cod lleol Niche |
|
Crynodeb |
|
Tai trwyddedig |
|
Arf a ddefnyddwyd |
|
Disgrifiad arf a ddefnyddwyd |
|
Sgôr CCHI |
|
Dioddefwyr |
|
Oedran dioddefwyr y drosedd |
|
Ethnigrwydd y dioddefwr (hunan-asesiad o’i hunaniaeth ei hun) |
|
Cod ethnigrwydd y dioddefwr (hunan-asesiad o’i hunaniaeth ei hun) |
|
Rhywedd y dioddefwr |
|
Pobl a enwir |
|
Oedran y person a enwir adeg y drosedd |
|
Ethnigrwydd y person a enwir (hunan-asesiad o’i hunaniaeth ei hun) |
|
Cod ethnigrwydd y person a enwir (hunan-asesiad o’i hunaniaeth ei hun) |
|
Rhywedd y person a enwir |
|
Perthynas y dioddefydd a’r cyhuddedig |
|
Marcwyr troseddau casineb |
|
Cymhwyswyr lleol |
|
Cymhwyswyr rhestr categori digwyddiad cenedlaethol (NICL) |
|
Dyddiad deilliant |
|
Deilliant |
|
Dyddiad gorffen |
|
Hyperddolen digwyddiad |
Sylwch: Mae’r adran a ddarparodd y data diwygiedig wedi datgan nad yw pwyntiau B – F (a gopïwyd isod er hwylustod o’ch cais blaenorol 522.2024) yn feysydd gorfodol, felly nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y swyddog i nodi dim o’r wybodaeth honno. Felly, er gwaethaf y ffigur is o ladradau cerbydau a gofnodwyd, byddai dal angen archwilio â llaw y data o bob cofnod lladrad cerbydau modur i nodi a yw’r swyddog wedi cwblhau unrhyw un o’r meysydd. Gan fod 294 o gerbydau modur wedi’u dwyn, ac mae’r adran wedi nodi, ar ôl cynnal sampl ar hap, y byddai’n cymryd tua 10 munud i adolygu pob achos, byddai hyn yn galw am ymateb ag esemptiad amcangyfrif amser gan y byddai’n cymryd tua 49 awr i’w gwblhau.
b) gwneuthuriad y cerbyd
c) model y cerbyd
d) categori’r cerbyd, h.y. car, fan, beic modur ac ati.
e) a yw’r cerbydau dan sylw wedi’u hadfer
f) mis yr adferiad
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 29 Gorffennaf 2024)