Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 669/2024
Cais:
Gwahanwch y cyfanswm ar gyfer pob blwyddyn.
Ymateb 1:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn gallu cadarnhau ai peidio a ydym yn cadw gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2) lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddo.
Lle dibynnir ar eithriadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod y wybodaeth yn esempt) roi hysbysiad i chi’r ceisydd sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n fwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 155 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais.Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Uned Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â’r cwestiwn yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei hadalw ac y byddai’n cymryd yn hwy na’r terfyn amser priodol, h.y. 18 awr, i’w hadalw. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai’n rhaid i ni adolygu pob adroddiad ‘Marwolaeth Sydyn’ â llaw.
Amcangyfrifwyd y byddai'n cymryd tua pum munud yr adroddiad i archwilio pob adroddiad yn unigol a chynnal chwiliad ar wahân am bob un. Canfuwyd bod cyfanswm o 1,922 o gofnodion y byddai angen eu harchwilio. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
2022: 1,203 cofnod x 5 munud fesul cofnod = 100 awr
2023: 457 cofnod x 5 munud y cofnod = 38 awr
2024 (hyd at 30 Mehefin) 208 cofnod x 5 munud y cofnod = 17
Felly, amcangyfrif o gyfanswm yr amser i gwblhau'r cais = 155 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys iddo, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Nodwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yn berthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Gorffennaf 2024)