Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 687/2024
Cais:
A allwch chi ddarparu copi wedi'i olygu o'r adroddiadau trosedd testun rhydd ar gyfer troseddau o dan adran 5(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 a gofnodwyd gan eich heddlu ym mis Mehefin 2024 os gwelwch yn dda?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Yn ystod mis Mehefin 2024, crëwyd cyfanswm o 13 o ddigwyddiadau gyda dosbarth ystadegau nad ydynt yn droseddau sy’n dod o dan adran 5 o’r Ddeddf Traffig Ffyrdd. Nid yw'r rhain yn droseddau hysbysadwy gyda'r Swyddfa Gartref.
Isod mae'r rhai sydd wedi cael ystadegau dosbarth di-drosedd wedi'i ychwanegu. Nid yw’r rhain yn cael eu hychwanegu at bob un nad yw’n drosedd gan nad yw’n ofyniad.
|
Adran 5 testun rhydd |
|
Yfed a gyrru x 12 |
|
Gyrru dan dylanwad alcohol / cyffuriau |
Sylwer: Mae’n bosibl y bydd mwy o droseddau na hyn nad yw swyddogion wedi gosod dosbarth ystadegau ar eu cyfer na fyddai’n bosibl dod o hyd iddynt, gan nad ydynt yn drosedd hysbysadwy.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddau i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, na chwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 25 Gorffennaf 2024)