Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 160/2024
Cais:
Mewn perthynas ag opioidau synthetig newydd, rwy’n golygu opioidau fel nitasinau a ffentanylau, ond nid opioidau synthetig fel tramadol neu fethadon. Yn y blynyddoedd 2019, 2020, 2021, 2022 a 2023 hyd at fis Mawrth, a hyd yma yn 2024:
(i) Os yw’n bosibl – nodwch y 'prif' sylwedd a atafaelwyd (e.e. heroin wedi’i gymysgu gydag etonitasin).
(ii) Os yw’n bosibl – nodwch faint a atafaelwyd ym mhob digwyddiad.
(iii) Os yw’n bosibl – nodwch ble wnaeth yr atafaeliadau hyn ddigwydd.
Yn y blynyddoedd 2019, 2020, 2021, 2022 a 2023 hyd at fis Mawrth, a hyd yma yn 2024:
(i) Os yw’n bosibl – nodwch y ‘prif’ sylwedd a atafaelwyd ac ym mha ffurf yr oedd (e.e. heroin wedi’i gymysgu gyda charffentanyl, neu bilsen ocsycodon ffug wedi’i gymysgu gyda charffentanyl).
(ii) Os yw’n bosibl – nodwch faint a atafaelwyd ym mhob digwyddiad.
(iii) Os yw’n bosibl – nodwch ble wnaeth yr atafaeliadau hyn ddigwydd.
Cwestiwn eglurhaol
Lle rydych yn nodi “A yw’r heddlu’n profi am”, a oes angen ystadegau ar gyfer profion a gyflawnwyd gan Heddlu Dyfed–Powys neu ystadegau ar gyfer cyffuriau a anfonwyd at drydydd parti er mwyn i’r profion gael eu cynnal?
Ateb eglurhaol
Mae gennyf ddiddordeb ym mhob atafaeliad a wnaeth yr heddlu – felly hoffwn wybodaeth am y rhai a brofwyd o fewn y sefydliad gan yr heddlu a’r rhai a anfonwyd at drydydd parti i’w profi.
Cwestiwn eglurhaol
A allwch chi ddarparu rhestr benodol o’r holl gyffuriau synthetig newydd eraill y mae angen chwilio amdanynt, er mwyn helpu i ateb Cwestiwn 3.
Ateb eglurhaol
Dyma’r gwahanol nitasinau rwy’n gobeithio casglu gwybodaeth amdanynt:
Ar gyfer opioidau synthetig newydd eraill, hoffwn wybod am y canlynol:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Na, ar gontract allanol.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
0
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed–Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2019: 0
2020: 0
2021: 0
2022: 1 (ffentanyl, tri thabled/capsiwl, nid yw gwybodaeth am bwysau amcangyfrifedig wedi’i chadw, a atafaelwyd o annedd breifat)
2023: 0
2024 (hyd yn hyn): 0
Nodwch y canlynol: Dim gwybodaeth bellach wedi’i chadw mewn perthynas â nitasinau penodol ac opioidau synthetig a restrir yn y cais.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac na chwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 10 Gorffennaf 2024)