Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 641/2024
Cais:
2022/23
2023/24
2022/23
2023/24
2022/23
2023/24
Ymosodiad cyffredin:
2022/23
2023/24
Gwir niwed corfforol:
2022/23
2023/24
Niwed corfforol difrifol:
2022/23
2023/24
2022/23
2023/24
2022/23
2023/24
Cwestiwn i geisio eglurhad:
Ateb i egluro:
Wrth adroddiadau, rwy’n golygu pob galwad i’r heddlu boed hynny drwy 999 neu 101.
Rwy’n cyfeirio at gyfanswm nifer y digwyddiadau yr adroddwyd amdanynt.
Ydw, rwy’n gofyn mewn blynyddoedd ariannol.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei dal.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei dal ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi’r ceisydd sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a ddelir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “terfyn priodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 3,031 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r adran rhyddid gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais o fewn yr amserlen a nodwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu ac adolygu’r holl droseddau ymosod a throseddau’n ymwneud ag arfau, byddai’n rhaid adolygu pob cofnod â llaw i ganfod a ddigwyddodd y digwyddiad ar safle ysgol.
Canfuwyd bod yna gyfanswm o 18,181 o gofnodion yn cwmpasu cyfnod eich cais. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf deg munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Byddai’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser a geir isod.
C1 |
Nifer y digwyddiadau |
Amser mewn oriau |
Ymosodiadau 1 Medi 2022 hyd 31 Gorffennaf 2023 |
4,007 |
668 |
Arfau 1 Medi 2022 hyd 31 Gorffennaf 2023 |
735 |
123 |
Ymosodiadau 1 Medi 2023 hyd 10 Gorffennaf 2024 |
3,623 |
604 |
Arfau 1 Medi 2023 hyd 10 Gorffennaf 2024 |
919 |
153 |
Cyfanswm |
9,284 |
1,548 |
C2 |
|
|
Arfau 1 Medi 2022 hyd 31 Gorffennaf 2023 |
735 |
123 |
Arfau 1 Medi 2023 hyd 10 Gorffennaf 2024 |
919 |
153 |
Cyfanswm |
1,654 |
276 |
C3 |
|
|
Ymosodiadau 1 Medi 2022 hyd 31 Gorffennaf 2023 |
4007 |
668 |
Ymosodiadau 1 Medi 2023 hyd 10 Gorffennaf 2024 |
3623 |
604 |
Cyfanswm |
7,630 |
1,272 |
C4 |
gweler C3 |
gweler C3 |
C5 |
gweler C1+ |
gweler C1+ |
Diogelwch a bom 1 Medi 2022 hyd 31 Gorffennaf 2023 |
3,914 |
652.5 |
Diogelwch a bom 1 Medi 2023 hyd 10 Gorffennaf 2024 |
4,983 |
830.5 |
Cyfanswm |
8,897 |
1,483 |
C6 |
gweler C5 |
gweler C5 |
Cyfanswm Cyffredinol |
18,181 |
3,031 |
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 3,031 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5) Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1), roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno.
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn gymwys.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 19 Gorffennaf 2024)