Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 639/2024
Cais:
Hoffwn wybod cenedligrwydd troseddwyr troseddau treisio ar gyfer 2020 a 2021 (pe gallech rannu hyn yn wladolion y DU, gwladolion deuol a gwladolion tramor).
Gofynnwyd am eglurhad ar 26 Mehefin 2024
A ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Mae digwyddiad yn gofnod o gyswllt y mae unigolyn / aelod o’r cyhoedd yn ei wneud â heddlu (fel arfer trwy alwad 999 neu 101) a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd er mwyn i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd fel y'i diffinnir gan y gyfraith.
Derbyniwyd eglurhad ar 26 Mehefin 2024
Mae gennyf ddiddordeb mewn trosedd yn hytrach na digwyddiad.
Ymateb
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:-
Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud yn unig â phobl sydd wedi'u harestio am y drosedd a'u dwyn i'r ddalfa.
|
Cenedligrwydd |
2020 |
2021 |
|
GWLADOLYN TRAMOR** |
6 |
3 |
|
GWLADOLYN DEUOL |
* |
* |
|
GWLADOLYN Y DEYRNAS UNEDIG |
103 |
129 |
*Sylwer nad oes gennym opsiwn i gofnodi gwladolyn deuol fel ymateb.
**Mae’r ffigurau ar gyfer ‘gwladolion tramor’ yn seiliedig ar y bobl hynny sydd wedi datgan eu bod wedi’u geni y tu allan i’r DU.Ni allwn ddweud yn gywir a ydynt bellach yn wladolion y DU neu’n wladolion tramor gan mai’r wybodaeth a gofnodwyd yw lle cawsant eu geni yn unig.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 24 Gorffennaf 2024)