Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 498/2024
Cais:
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed–Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), ddarparu hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(1), Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Mae cost cydymffurfio yn fwy na'r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 30.6 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiwn 2 eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth yn gywir mewn perthynas â’ch cais yn yr amserlen a bennwyd yn gywir, byddai angen i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu ac adolygu’r holl adroddiadau troseddau sy’n ymwneud â cherbydau, byddai’n rhaid adolygu pob cofnod â llaw i ganfod a oedden nhw’n cael eu “israddio i fater sifil”.
Sefydlwyd bod cyfanswm o 368 o gofnodion trosedd yn ymwneud â chyfnod eich cais. Canfuwyd hefyd y byddai’n cymryd o leiaf pum munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod trosedd mewn perthynas â’ch cais (fel yr amlinellir uchod). Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
368 cofnod x 5 munud = 30.6 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 30.6 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â chwestiwn 1 eich cais, y bu’n hawdd ei hadalw, a’i hamlinellu isod. Hyderaf fod hyn o gymorth, ond nid yw'n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
C1
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth mewn perthynas â’r cais hwn: 368.
C2
Byddai pob un ohonynt yn cael eu hymchwilio i raddau.
C3 a C4
Yn unol â rheolau cyfrif y Swyddfa Gartref, Rheolau Cofnodi Troseddau’r Swyddfa Gartref ar gyfer swyddogion a staff rheng flaen - GOV.UK (www.gov.uk), cofnodir troseddau hysbysadwy cyn gynted ag sy’n ymarferol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd ar adeg yr adroddiad. Os daw i’r amlwg yn ystod ymchwiliad ei fod yn “ddi-drosedd”, e.e. mater sifil (nad yw’n drosedd hysbysadwy yn unol â rheolau cyfrif y Swyddfa Gartref) a bod digon o wybodaeth wiriadwy ychwanegol i gadarnhau hyn, gall swyddog yr achos gyflwyno cais canslo. Mae hon yn broses a gwblheir trwy Niche gan swyddog yr achos gan ddarparu'r wybodaeth wiriadwy ychwanegol lawn sy'n ei gwneud yn drosedd ac yn ei rhoi i'r ardal berthnasol i'w hadolygu a'i chanslo. Dim ond penderfynwyr dynodedig o fewn y Tîm Archwilio Troseddau all ganslo.
Dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddau i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, na chwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 1 Gorffennaf 2024)