Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 634/2024
Cais:
Eglurhad:
Ymateb - Cwestiwn 1-9
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau yn gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu'r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Fodd bynnag, rydym yn atal rhywfaint o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Y gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo; h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 615 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Uned Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â’r cais cyfan yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei hadalw ac y byddai’n mynd y tu hwnt i’r terfyn amser priodol, h.y. 18 awr, i’w hadalw. Mae hyn oherwydd y ffaith y byddai angen archwilio’r digwyddiadau yn unigol ar y system.
Amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd tua 10 munud fesul cofnod i archwilio pob digwyddiad yn unigol. Canfuwyd bod cyfanswm o 3695 o ddigwyddiadau y byddai angen eu harchwilio. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
01 Ionawr 2024 – 26 Mehefin 2024: 3695 cofnod x 10 munud fesul cofnod = 615.83 awr
Felly, yr amcangyfrif o gyfanswm yr amser i gwblhau’r cais = 615.83 awr.
Sylwer: Mae troseddau twyll a gofnodir yn benodol gan Dîm Troseddau Economaidd yr heddlu yn cael eu cofnodi ar gronfa ddata ar wahân a gellir darparu ymateb mewn perthynas â’r wybodaeth hon o fewn y terfyn amser priodol, h.y. 18 awr.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cais hwn YN GYFAN o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yw’n berthnasol.
Er bod costau ychwanegol wedi dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais a adalwyd neu a oedd ar gael cyn y sylweddolwyd y byddai’r terfyn ffioedd yn cael ei dorri. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Cwestiwn 10:
Nac oes
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Gorffennaf 2024)