Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 681/2024
Cais:
1) Nifer yr ymosodiadau gan gŵn yr adroddwyd amdanynt (cod y Swyddfa Gartref 008/21 – perchennog neu berson â gofal yn caniatáu i gi fod allan o reolaeth yn beryglus mewn unrhyw le yng Nghymru neu Loegr gan anafu unrhyw unigolyn neu gi cymorth) ar gyfer y dyddiadau canlynol:
1 Chwefror 2020 – 1 Gorffennaf 2020
1 Chwefror 2021 – 1 Gorffennaf 2021
1 Chwefror 2022 – 1 Gorffennaf 2022
1 Chwefror 2023 – 1 Gorffennaf 2023
1 Chwefror 2024 – 1 Gorffennaf 2024
2) Allan o gyfanswm y digwyddiadau ar gyfer pob blwyddyn, rhowch hefyd y nifer a oedd yn ymwneud â chŵn a amheuir o fod yn gŵn Bully XL Americanaidd (a elwir hefyd yn ‘Bully XL’) ac, ar wahân eto, y nifer a oedd yn ymwneud â chŵn Bully XL Americanaidd a gadarnhawyd.
Er enghraifft, ar gyfer 1 Chwefror 2020 - 1 Gorffennaf 2020, cyfanswm o 20 digwyddiad gyda phedwar yn ymwneud â chi Bully XL a amheuir a dau yn ymwneud â chi Bully XL a gadarnhawyd.
---------------------------------------
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod yr wybodaeth ganlynol yn cael ei chadw:
Cwestiwn 1:
1 Chwefror 2020 – 1 Gorffennaf 2020 = 115
1 Chwefror 2021 – 1 Gorffennaf 2021 = 120
1 Chwefror 2022 – 1 Gorffennaf 2022 = 107
1 Chwefror 2023 – 1 Gorffennaf 2023 = 99
1 Chwefror 2024 – 1 Gorffennaf 2024 = 113
Cwestiwn 2:
Bully XL a amheuir o fod yn gŵn bully XL ac a gadarnhawyd
1 Chwefror 2020 – 1 Gorffennaf 2020 = 0
1 Chwefror 2021 – 1 Gorffennaf 2021 = 0
1 Chwefror 2022 – 1 Gorffennaf 2022 = 0
1 Chwefror 2023 – 1 Gorffennaf 2023 = 0
1 Chwefror 2024 – 1 Gorffennaf 2024 = 2
Mae ymholiadau hefyd wedi'u gwneud gydag adran gŵn yr heddlu i weld a oes ganddynt unrhyw wybodaeth bellach. Fe'n cynghorir y byddai'n mynd y tu hwnt i'r terfyn priodol i benderfynu a oes unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei chadw. Gweler isod yr hysbysiad gwrthod perthnasol.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod esemptiad adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw is-adran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o oriau) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â’ch cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Yng ngoleuni hyn ac er mwyn cael yr wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais ar gyfer yr amserlen a bennwyd yn gywir, byddai'n rhaid i Heddlu Dyfed-Powys gyrchu ac adolygu 99 o gofnodion.
Mae wedi’i sefydlu bod cyfanswm o 42 o gofnodion sy’n cwmpasu cyfnod eich cais, a fyddai’n cymryd lleiafswm o 20 munud fesul cofnod, a 57 o gofnodion ychwanegol eraill, a fyddai’n cymryd lleiafswm o 5 munud fesul cofnod, i adolygu a chael yr wybodaeth mewn perthynas â'ch cais.
Mae’r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
42 cofnod x 20 munud fesul cofnod = 14 awr
57 cofnod x 10 munud fesul cofnod = 9.5 awr
Amcangyfrif amser i gwblhau’r dasg = 23.5 awr
Yn unol felly â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn, mewn perthynas â’r adran gŵn, o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 31 Gorffennaf 2024)