Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 6/2024
Cais:
A oes gennych yr wybodaeth ganlynol?
A wnewch chi roi data i mi am nifer yr adroddiadau a wnaed i’ch heddlu ynghylch lladradau parseli o garreg drws rhwng Ionawr 2022 a Rhagfyr 2022 (lle mae parseli a adawyd y tu allan i gartrefi pobl wedi’u dwyn)?
A ellir anfon y data mewn taenlen yn cynnwys y niferoedd pob mis, gwerth yr eiddo a ddygwyd a, lle bo modd, disgrifiad o'r eitemau y tu mewn i'r parseli?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
Nifer yr achosion o ddwyn parseli o garreg y drws |
Eitemau |
Dyddiad adrodd |
Gwerth yr eiddo a ddygwyd |
1 |
Heb ei nodi |
Chwefror 2022 |
Heb ei nodi |
2 |
Ffitiadau plymio |
Chwefror 2022 |
Heb ei nodi |
3 |
Trydanol a dillad |
Mawrth 2022 |
£172.44 |
4 |
Cysgod lamp |
Mehefin 2022 |
£48.00 |
5 |
Cosmetigau |
Mehefin 2022 |
£71.00 |
6 |
Trydanol |
Awst 2022 |
£39.00 |
7 |
Heb ei nodi |
Medi 2022 |
Heb ei nodi |
8 |
Dillad a thegan |
Tachwedd 2022 |
£94.00 |
9 |
Dillad |
Tachwedd 2022 |
£50.00 |
10 |
Dillad a thegan |
Tachwedd 2022 |
£94.00 |
11 |
Dillad |
Tachwedd 2022 |
£50.00 |
12 |
Dillad |
Tachwedd 2022 |
£80.00 |
13 |
Heb ei nodi |
Rhagfyr 2022 |
Heb ei nodi |
Cyfanswm |
£698.44 |
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data am droseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
Ymateb yw hwn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Wedi'i ddatgelu ar 28 Ionawr 2024.