Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 448/2024
Cais:
Rhowch ddadansoddiad yn ôl blwyddyn.
Rhowch ddadansoddiad yn ôl blwyddyn ac, os o fewn y gost a ganiateir, ddadansoddiad o'r mathau o droseddau.
O'r rhain, beth oedd rhywedd ac, os yn bosibl, oedran a chyfansoddiad daearyddol y rhai dan amheuaeth?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod gwybodaeth a gedwir gan Heddlu Dyfed-Powys, a amlinellir isod.
|
Blwyddyn |
Cyfanswm |
|
2019 |
313 |
|
2020 |
245 |
|
2021 |
204 |
|
2022 |
261 |
|
2023 |
261 |
|
2024 (hyd at y pymthegfed) |
77 |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod gwybodaeth a gedwir gan Heddlu Dyfed–Powys, a amlinellir isod.
|
Blwyddyn |
Cyfanswm |
|
2020 |
4 |
|
2021 |
3 |
|
2022 |
1 |
|
2023 |
12 |
|
2024 (hyd at y pymthegfed) |
5 |
|
Ethnigrwydd |
Cyfanswm |
|
GWYN – GOGLEDD EWROP |
10 |
|
ASIAIDD |
1 |
|
HEB EI NODI |
4 |
|
GWYN PRYDEINIG |
10 |
|
Gwryw |
Benyw |
|
24 |
1 |
Ymateb 3:
Nid yw’n ymddangos bod cwestiwn 3 yn gais dilys am wybodaeth o dan delerau’r ddeddfwriaeth. Mae wedi’i lunio mewn cyd-destun amodol, sef “beth yw’r rheswm”, sy’n gwestiwn cyffredinol. Ac fel y gwyddoch efallai, mae adran 84 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ymwneud â gwybodaeth wedi’i chofnodi a gedwir gan awdurdod cyhoeddus ac nid yw’n ymestyn i roi esboniadau oni bai fod yr atebion eisoes wedi’u cadw ar ffurf gofnodedig.
“Diffinnir gwybodaeth yn adran 84 o’r Ddeddf fel ‘gwybodaeth a gofnodwyd ar unrhyw ffurf’. Felly, dim ond i geisiadau am wybodaeth wedi'i chofnodi y mae'r Ddeddf yn ymestyn. Nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ateb cwestiynau'n gyffredinol; dim ond os ydynt eisoes yn cadw’r atebion ar ffurf gofnodedig. Nid yw’r Ddeddf yn ymestyn i geisiadau am wybodaeth am bolisïau na’u gweithrediad, na manteision neu anfanteision unrhyw gynnig neu weithred – oni bai, wrth gwrs, fod yr ateb i unrhyw gais o’r fath eisoes yn cael ei gadw ar ffurf gofnodedig.” (Day v Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau – EA/2006/0069 Penderfyniad Terfynol).
Nid yw’r cais yn gais dilys o dan adran 8 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth felly am y rhesymau a amlinellwyd ac ni ellir delio â’r cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae adran 8 o’r Ddeddf yn darparu’r canlynol:
(1) Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at “gais am wybodaeth” yn gyfeiriad at gais o’r fath sydd:–
(a) yn ysgrifenedig,
(b) yn datgan enw’r ymgeisydd a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth, ac
(c) yn disgrifio’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
(2) At ddibenion is-adran (1)(a), mae cais i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn ysgrifenedig pan fo testun y cais:–
(a) yn cael ei drosglwyddo drwy ddull electronig,
(b) yn dod i law ar ffurf ddarllenadwy, ac
(c) yn addas i’w ddefnyddio at ddibenion cyfeirio dilynol.
Mae’n ofynnol yn ôl statud i gais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ddisgrifio’r wybodaeth y gofynnir amdani, yn nhermau gwybodaeth gofnodedig a gedwir gan Heddlu Dyfed–Powys, fel y’i diffinnir gan adran 8(1)(c).
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i gyrchu gwybodaeth a gofnodwyd yn unig. Nid yw’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus ateb cwestiynau uniongyrchol neu ddamcaniaethol na rhoi sylwadau neu farn, oni bai fod gwybodaeth gofnodedig yn bodoli a allai ateb cwestiynau o’r fath ei hun.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r ymateb hwn yn cynrychioli hysbysiad gwrthod ar gyfer y rhan hon o’ch cais o dan adran 8(1)(c) o’r Ddeddf.
______________________________
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed–Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data am droseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
Ymateb yw hwn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac fe’i datgelwyd ar 31 Mai 2024