Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 453/2024
Cais:
Faint o swyddogion heddlu ydych chi’n eu cyflogi ar hyn o bryd, ac a allwn gael dadansoddiadau unigol (mewn niferoedd a chanran o’r heddlu cyfan) o faint sydd wedi datgelu eu bod fel a ganlyn?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani; fodd bynnag rydym yn esemptio rhan o’r wybodaeth gan ein bod yn credu bod yr esemptiad canlynol yn gymwys:
Adran 40(2) – Gwybodaeth bersonol
Ar 31 Mawrth 2024: Swyddogion heddlu yn cael eu cyflogi ar y pryd – nifer y swyddogion: 1,318
Mae’r esemptiad a gymhwyswyd yn ymwneud â’r dadansoddiad o wybodaeth, fel y gofynnir amdano ym mhwyntiau 1 i 5 o’r cais. Rhoddir esboniad isod.
Mae adran 40(2) yn berthnasol i ddata personol trydydd parti ac y maent yn esempt rhag cael eu datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3, Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym Mhennod 2, “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am, a rhaid iddo allu dangos, cydymffurfedd â” Phennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod elfen gref o ran budd y cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid cofio hynny wrth ddatgelu gwybodaeth o dan y Ddeddf. O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith, Pennod 2 – Egwyddorion, adran 35 –
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:This section has no associated Explanatory Notes
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Mae Erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu fel a ganlyn:
“1. Caiff ‘data personol’:
(a) eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) eu casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni fydd prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd ...
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai, o bosibl, adnabod unigolyn. Yn yr achos penodol hwn, byddai darparu’r dadansoddiad penodol o’r wybodaeth y gofynnwyd amdano yn torri deddfwriaeth diogelu data yn uniongyrchol. Felly, o ganlyniad, rwyf yn fodlon bod esemptiad adran 40(2) ‘Gwybodaeth bersonol’ yn gymwys ar gyfer rhyddhau’r wybodaeth.
Mae esemptiad adran 40 yn esemptiad ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath.
Mae esemptiad adran 40 yn rhannol amodol ac yn rhannol absoliwt. Yn yr achos presennol byddai’n absoliwt gan y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth diogelu data, ac felly nid oes unrhyw ofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Mai 2024)