Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 896/2023
Cais:
A allwch chi roi manylion faint o bobl sydd wedi’u harestio ar amheuaeth o unrhyw un o’r troseddau canlynol rhwng 2019 a 2023?
Dadansoddwch y ffigurau fesul blwyddyn.
a) Rhowch ryw y sawl a arestiwyd.
b) Rhowch oedran y sawl a arestiwyd.
c) Nodwch a gawsant eu cyhuddo ai peidio.
d) Rhowch ddisgrifiad byr o’r drosedd, lle bo modd.
Ymatebion 1 a 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Byddai’r troseddau hyn wedi dod o dan un cod cwmpasog, sef “Achosi Erthyliad Anghyfreithlon”. Ni chofnodwyd un o fewn yr amserlen y gofynnwyd amdani.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
2019 |
0 |
|
2020 |
0 |
|
2021 |
1 |
|
2022 |
0 |
|
2023 |
0 |
a) Gwryw
b) Esemptiad adran 40(2) yn gymwys (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd)
c) Dim gweithredu pellach
d) Esemptiad adran 40(2) yn gymwys (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd)
Eglurhad o’r esemptiad a gymhwyswyd:
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol
Mae adran 40(2) yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal Prawf NIWED mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Yn ogystal, nid oes gofyniad i ystyried prawf budd y cyhoedd.
Adran 40(2) Gwybodaeth bersonol:
Mae adran 40(2) yn berthnasol i ddata personol trydydd parti ac y mae’n esempt rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn rhan 3, pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym mhennod 2, “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am, a rhaid iddo allu dangos, cydymffurfiad â” phennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod elfen gref o ran budd y cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, nid dim ond i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth, ac mae’n rhaid ei datgelu o dan y Ddeddf gan ddwyn hynny mewn cof. O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
Mae erthygl 5 o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu fel ganlyn:
“1. Caiff data personol
(a) Eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) Eu casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai o bosibl beri i unigolyn gael ei adnabod. Yn yr achos penodol hwn, gallai rhyddhau dadansoddiad o oedran a manylion am sut y digwyddodd y digwyddiad ddarparu gwybodaeth bersonol iawn, yn enwedig o ystyried mai dim ond un digwyddiad a gofnodwyd, arwain at beri i’r unigolion dan sylw cael eu hadnabod a byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath yn torri deddfwriaeth diogelu data yn uniongyrchol. Felly, o ganlyniad, rwyf yn fodlon bod esemptiad adran 40 (2) – Gwybodaeth bersonol, yn berthnasol i ryddhau yr wybodaeth.
Mae esemptiad adran 40 yn esemptiad ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr, wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth, o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal Prawf NIWED mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath.
Mae esemptiad adran 40 yn rhannol amodol ac yn rhannol absoliwt. Yn yr achos presennol byddai’n absoliwt gan y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn torri deddfwriaeth diogelu data ac felly nid oes unrhyw ofyniad i gynnal prawf budd y cyhoedd.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai neu ni allai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol yn rheolaidd i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai cyffredinol, ac ni ddefnyddir y gweithdrefnau’n lleol ychwaith i gasglu data troseddau. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch, o bosib.
(Ymateb yw hwn o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 14 Mai 2024)