Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 273/2024
Cais:
1. A allwch ddweud wrthyf faint o swyddogion heddlu yr ymchwiliwyd iddynt gan yr adran safonau proffesiynol am unrhyw fath o gamymddwyn ym mhob blwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf.
Cofiwch gynnwys y canlynol:
2. A wnewch chi hefyd ddweud wrthyf beth yw cyllideb yr adran safonau proffesiynol ar gyfer pob blwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi’r ceisydd sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal yr wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod. Fodd bynnag, rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(1) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Adran 12(1) – Mae cost cydymffurfio yn uwch na'r terfyn priodol
Mae adran 12(1) yn datgan: “Nid yw adran 1(1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â chais am wybodaeth os ydyw’r awdurdod yn amcangyfrif y byddai’r gost o gydymffurfio â’r cais yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn uwch na’r “terfyn priodol” fel y nodir yn Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfyn a Ffioedd Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. isafswm o 978 awr) i gydymffurfio â’r rhan hon o’ch cais. Gellir dod o hyd i’r rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae'r adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu, oherwydd swm yr wybodaeth mewn perthynas â chwestiwn 1 eich cais, fod y data a gynhyrchir yn rhy fawr i'w allforio. Yr unig ddewis arall yw cynnal archwiliad â llaw o'r holl gofnodion i nodi'r achosion perthnasol.
Mae wedi'i ganfod bod cyfanswm o 5,871 o gofnodion sy'n cwmpasu cyfnod eich cais. Mae hefyd wedi'i ganfod y byddai'n cymryd o leiaf 10 munud i adolygu a chael yr wybodaeth ar gyfer un cofnod/swyddog mewn perthynas â'ch cais (fel yr amlinellwyd uchod). Mae'r broses a amlinellir yn arwain at yr amcangyfrif amser isod.
|
Blwyddyn |
Cofnodion o gwynion |
Cofnodion ymddygiad |
Cyfanswm terfynol |
Amcangyfrif amser |
|
2014 |
276 |
35 |
311 |
51.83 |
|
2015 |
257 |
26 |
283 |
47.16 |
|
2016 |
267 |
35 |
302 |
50.33 |
|
2017 |
311 |
23 |
334 |
55.66 |
|
2018 |
302 |
21 |
323 |
53.83 |
|
2019 |
303 |
31 |
334 |
55.66 |
|
2020 |
765 |
34 |
799 |
133.16 |
|
2021 |
820 |
32 |
852 |
142 |
|
2022 |
1057 |
34 |
1091 |
181.83 |
|
2023 |
995 |
39 |
1034 |
172.33 |
|
2024 |
203 |
5 |
208 |
34.66 |
|
Cyfanswm terfynol |
5556 |
315 |
5871 |
978.45 |
Amcangyfrif amser i gwblhau'r dasg = 978.45 awr
Yn unol felly â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel Hysbysiad Gwrthod i’r cais hwn YN GYFAN o dan Adran 17(5) Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad y mae adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai yr hoffech fireinio ac ailgyflwyno eich cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth. Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw'n dileu hawl yr awdurdod cyhoeddus i ddyfynnu esemptiadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod costau ychwanegol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth, mewn perthynas â chwestiwn 1 eich cais, y mae’n hawdd ei hadalw ac sy’n cael ei hamlinellu isod. Gobeithiaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
C2.
Gallaf gadarnhau bod Dyfed-Powys yn cadw gwybodaeth mewn perthynas â’r cais hwn, fel yr amlinellir isod:
|
Blwyddyn ariannol |
Swm (£) |
|
2022/23 |
1,321,818 |
|
2021/22 |
1,271,324 |
|
2020/21 |
1,244,885 |
|
2019/20 |
1,171,709 |
|
2018/19 |
1,102,901 |
|
2017/18 |
1,066,233 |
|
2016/17 |
958,835 |
|
2015/16 |
795,598 |
|
2014/15 |
468,120 |
|
2013/14 |
766,750 |
|
2012/13 |
754,500 |
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 23 Mai 2024)