Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 68/2024
Cais:
Manylion y canolfannau powndio cerbydau a ddefnyddir gan bob heddlu yn y Deyrnas Unedig.
Hoffwn i chi ddarparu’r wybodaeth hon yn y fformat a ganlyn:
Heddlu, yr ardal a wasanaethir, enw'r ganolfan bowndio, cyfeiriad y ganolfan bowndio, cyfeiriad e-bost y ganolfan bowndio a rhif ffôn.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae esemptiad gorfodi’r gyfraith adran 31(1)(a)(b) wedi’i gymhwyso i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan felly esemptio ei rhyddhau.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi hysbysiad i’r ceisydd sydd:
a) Yn datgan y ffaith honno
b) Yn nodi'r esemptiad(au) dan sylw
c) Yn nodi (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn berthnasol
Adran 31(1)(a)(b) – Gorfodi'r gyfraith
Niwed
Byddai datgelu manylion y garejys a ddefnyddir gan Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i berson a allai fod am gyflawni gweithgareddau troseddol ynglŷn â galluogrwydd / sefyllfa dactegol ac yn amlygu bod yr heddlu yn adfer a storio cerbydau mewn lleoliadau penodol, gan ganiatáu iddynt addasu eu tactegau yn unol â hynny.
Ffactorau o blaid datgelu
Mae angen i heddluoedd feddu ar yr offer priodol i fodloni'r gofynion a osodir arnynt a gallai'r wybodaeth hon helpu i roi sicrwydd i'r cyhoedd bod Heddlu Dyfed-Powys yn ddigon parod yn y maes hwn. Mae’r Heddlu yn gyfrifol am arian cyhoeddus ac felly mae cryn fudd i’r cyhoedd mewn datgelu sut ac ar beth y caiff yr arian ei wario.
Ffactorau o blaid peidio â datgelu
Mae peidio â datgelu lleoliadau garejys a ddefnyddir i adfer cerbydau nad ydynt yn y parth cyhoeddus yn golygu y gall rhai gweithgareddau plismona gael eu cyflawni gan sicrhau’r posibilrwydd lleiaf o gael eu harsylwi neu eu tarfu. Gallai datgelu’r lleoliadau hyn ganiatáu i droseddwyr benderfynu ble mae’r gweithgareddau hynny’n cael eu cyflawni a’u harsylwi er mwyn cael gwybodaeth. Byddai hyn yn cynorthwyo gweithgarwch troseddol drwy alluogi unigolion i danseilio ac amharu ar weithgareddau plismona, felly diben pennaf esemptio manylion y garejys hyn yw er mwyn diogelu lleoliadau y gellid eu targedu er mwyn amharu ar weithgareddau a swyddogaethau gorfodi cyfraith gyffredinol.
Prawf cydbwysedd
Er bod budd cyffredinol i’r cyhoedd mewn bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut a ble y caiff arian cyhoeddus ei wario a’r gwasanaethau a ddarparwn, mae mwy o fudd i’r cyhoedd mewn diogelu ein galluoedd plismona. Gallai gwybodaeth sy’n nodi ym mha le y cynhelir gweithgarwch plismona penodol, megis manylion am leoliadau garejis yn y cais rhyddid gwybodaeth hwn, gael ei defnyddio er budd troseddwyr. Bydd gwybodaeth sy'n tanseilio uniondeb gweithredol y gweithgareddau hyn yn effeithio'n andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd ac yn cael effaith negyddol ar orfodi'r gyfraith. Felly, am y rhesymau a amlinellwyd uchod, penderfynir bod budd y cyhoedd yn ffafrio peidio â datgelu.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 28/05/2024)