Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 785/2023
Cais:
Gweithdrefn gweithredu safonol/Polisi mewn perthynas â chŵn heddlu'n byw yng nghartref swyddogion cŵn.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae rhan 5 o weithdrefn gweithredu safonol Adran Gŵn Heddlu Dyfed-Powys yn berthnasol i’ch cais. Gwelwch y tudalennau perthnasol isod:
Cymerwyd o weithdrefn gweithredu safonol Adran Gŵn Heddlu Dyfed-Powys (fersiwn 1 - dyddiad: Gorffennaf 2021)
- Cynelu, ymarfer a gofal
Cartrefi’r swyddogion
- Er y gall fod eithriadau tymor byr, mae’n rhaid i swyddog cŵn allu sicrhau bod cwb ci a chynefin cymeradwy ar gyfer y ci, a sicrhau bod ffensys perimedr diogel ychwanegol wedi eu gosod yn ei gartref. Dylai fod gan yr eiddo ardd digon o faint i ganiatáu codi cwb ci cymeradwy ar sylfaen addas, a bydd yn cael ei osod yn broffesiynol ar gost i'r gwasanaeth.
- Pan ddyrennir ci heddlu i swyddog cŵn newydd neu pan fydd swyddog cŵn presennol yn symud tŷ, bydd yr eiddo yn destun gwiriad addasrwydd cartref gan oruchwyliwr yr adran gŵn i gadarnhau ei fod yn addas ar gyfer cadw ci heddlu.
- Ni chaniateir i swyddogion cŵn presennol barhau â dyletswyddau trin cŵn os byddant yn symud i eiddo newydd a ystyrir yn ‘annerbyniol’. Mae'n bwysig bod gwiriad addasrwydd cartref yn cael ei gyflawni os yw'r swyddog yn dymuno parhau i fod yn swyddog cŵn.
- Bydd swyddogion y dyrennir cŵn heddlu iddynt yn cael cwb ci a chynefin cymeradwy yn eu cartrefi. Dylai'r cwb ci a'r cynefin eu hamddiffyn rhag tywydd garw gan gynnwys gwres, oerfel a lleithder a dylid darparu dillad gwely cyfforddus glân. Dylai cŵn heddlu gael eu gwely eu hunain a dylid glanhau eu dillad gwely’n rheolaidd a’u newid am rai newydd pan fo angen. Dylid cloi cŵn heddlu yn y cybiau a’r cynefinoedd hyn, oni bai eu bod o dan reolaeth gorfforol eu swyddogion.
- Bydd y cwb ci yn aros yn eiddo i Heddlu Dyfed-Powys bob amser, a phan nad yw swyddog bellach yn gwasanaethu fel swyddog cŵn, gwneir trefniadau i’w symud.
- Mae goruchwylwyr unedau cŵn yn gyfrifol am sicrhau bod cybiau cŵn a chynefinoedd cartref yn cael eu cynnal mewn cyflwr boddhaol a bod cartrefi swyddogion yn parhau i gynnig amgylchedd diogel ar gyfer y cŵn a ddyrannwyd. Mae’n ddyletswydd ar y swyddog i roi gwybod ar unwaith am unrhyw ddiffyg neu ddirywiad yn y cwb ci neu’r cynefin.
- Bydd archwiliadau o'r cybiau hyn yn cael eu cynnal o leiaf bob 36 mis. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r hawl i archwilio’r amgylchiadau y cedwir ci heddlu ynddo, ar unrhyw adeg.
- Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, rhoddir o leiaf tri diwrnod o rybudd cyn archwiliad arfaethedig i swyddog cŵn. Dylid cynnal unrhyw archwiliad o'r fath ym mhresenoldeb y swyddog dan sylw.
- Pan fydd swyddog ar wyliau a ddim yn ei gyfeiriad cofrestredig, bydd y ci heddlu a ddyrennir fel arfer yn cael ei roi yn llety cŵn yr adran gŵn briodol neu mewn sefydliad cymeradwy arall.
- Pan fo aelod o’r adran gŵn yn feichiog, rhaid ystyried lles y swyddog dan sylw a'r cŵn heddlu y maent yn gyfrifol amdanynt. Gall hyn olygu, tra bo’r swyddog yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth, y gellir dyrannu ei chi (cŵn) heddlu i swyddog arall naill ai dros dro neu'n barhaol. Byddai pob achos unigol yn ystyried oedran ac arbenigedd y ci(cŵn) heddlu a gallu'r swyddog i ddarparu gofal digonol ar gyfer y ci heddlu. Byddai'r holl ystyriaethau'n cael eu trafod â'r uwch-reolwyr ar y cyd ag AD i sicrhau cyfreithlondeb a lles staff.
- Ni fydd swyddog cŵn fel arfer yn cael caniatâd i fynd â chi heddlu ar wyliau, neu o’i breswylfa gymeradwy, os yw hyn yn golygu cadw’r ci mewn unrhyw beth heblaw ei gwb ci ei hun, ac eithrio pan fo’r ci yn cael ei letya mewn cerbyd cŵn cymeradwy pan fo’r swyddog yn cymryd rhan mewn cyd-gymorth neu mewn treial cŵn. Nid yw lletya cŵn mewn carafán, pabell neu faes gwersylla yn dderbyniol. Ni roddir caniatâd i fynd â chŵn heddlu dramor.
- Os yw swyddog yn dymuno mynd â’r ci heddlu gydag ef/hi ar wyliau, o’r cyfeiriad cartref, gall rhingyll yr adran gŵn awdurdodi hynny.
- Yn amodol ar gymeradwyaeth rhingyll yr adran gŵn, gall swyddog wneud trefniadau i'w gi dderbyn gofal gan swyddog cŵn heddlu arall yn ei gartref. Bydd hyn hefyd yn berthnasol pan fydd swyddog yn sâl ac yn methu gofalu am ei gi heddlu a sicrhau ei fod yn cael ymarfer corff yn bersonol yn ei gyfeiriad cartref.
- Bydd cybiau cŵn cartref a chynefinoedd yn cael eu cadw'n lân a'u diheintio yn rheolaidd gan y swyddog cŵn yn unol â hyfforddiant. Dim ond cŵn heddlu neu gŵn heddlu wedi ymddeol bydd yn cael eu cadw mewn cybiau cŵn a chynefinoedd cartref. Bydd diheintydd addas ar gyfer glanhau pob cwb ci heddlu ar gael i bawb sy'n trin cŵn.
- Dim ond swyddogion cŵn ddylai wneud ymarfer corff gyda chŵn heddlu a dylid gwneud hyn ar droed. Dylid sicrhau bod ci heddlu yn gwneud ymarfer corff ar dennyn oni bai bod y swyddog cŵn yn gwneud asesiad ei bod yn ddiogel gwneud fel arall. Cyn gwneud ymarfer corff gyda chi heddlu, cyfrifoldeb y sawl sy'n trin y ci yw cynnal asesiad risg deinamig.
- Bydd swyddogion cŵn yn sicrhau bod canllawiau bwydo cynhyrchwyr yn cael eu dilyn. Rhaid i bob swyddog cŵn heddlu sicrhau bod eu cŵn mewn cyflwr ffit ac iach bob amser. Bydd hyfforddwyr hyfforddi cŵn heddlu achrededig yn gyfrifol am oruchwylio iechyd a chyflwr cŵn yn drylwyr bob tro y byddant yn cyfarwyddo swyddogion.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Mai 2024)