Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 433/2024
Cais:
1) A allwch chi restru’r cyfarpar cyfathrebu a ddarperir i swyddog rheng flaen ar ddechrau shifft?
2) Sut mae’r swyddog yn casglu’r cyfarpar hwn ar ddechrau’r shifft? (Locer personol, storfa, man casglu canolog) Yn eich ateb, a wnewch chi fanylu ar y dull casglu ar gyfer pob darn o gyfarpar a restrir yn ateb 1?
3) O ran y cyfarpar a restrir yng nghwestiwn 1, a allwch chi fanylu ar faint o gyfarpar a gollwyd yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf (2023) a gwerth y cyfarpar? A ellir rhestru eich ateb yn ôl y math o gyfarpar yn hytrach na’r cyfanswm?
4) O ran y cyfarpar a restrir yng nghwestiwn 1, a allwch chi fanylu ar faint o gyfarpar a ddifrodwyd yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf (2023) a gwerth y cyfarpar?A ellir rhestru eich ateb yn ôl y math o gyfarpar yn hytrach na’r cyfanswm?
5) Sut mae’r eitemau penodol hyn yn cael eu cadw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio?
6) A oes angen ailwefru’r dyfeisiau a restrir yng nghwestiwn 5 rhwng shifftiau?
7) A oes swyddog, neu swyddogion, sy’n gyfrifol am ddiogelwch y dyfeisiau a restrir yng nghwestiwn 5? A allwch chi ddarparu teitlau eu swyddi?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Uwch-system radio ddaearol a roddir i unigolion a therfynell data symudol a roddir i unigolion.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cesglir yr uwch-system radio ddaearol a’r derfynell data symudol o loceri personol y swyddogion ar ddechrau eu cyfnod ar ddyletswydd.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
35 x radio trawsyrru – gwerth Mae esemptiad adran 43(2) yn gymwys, (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd)
5 x terfynell data symudol – gwerth Mae esemptiad adran 43(2) yn gymwys, (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd)
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
5 x radio trawsyrru – gwerth Mae esemptiad adran 43(2) yn gymwys, (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd)
4 x terfynell data symudol – gwerth Mae esemptiad adran 43(2) yn gymwys, (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r esemptiad a gymhwyswyd)
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
a) Mae radios trawsyrru yn cael eu storio mewn loceri a roddir i unigolion. Mae gan y radio fatri symudadwy sy’n cysylltu i’r cefn. Mae’r batri’n cael ei dynnu ar ddiwedd y cyfnod ar ddyletswydd ac yn cael ei osod mewn man ailwefru batrïau cymunol.
b) Mae camerâu corff yn cael eu storio ar y man gwefru/lawrlwytho pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae gan bob gorsaf ei man dynodedig ei hun gyda mannau docio ar gyfer camerâu corff. Mae pob camera corff a roddir i unigolion wedi’i farcio â rhif coler y swyddog fel bod y swyddog yn defnyddio’r un camera corff yn ystod pob shifft.
c) Mae offer Taser yn cael eu storio mewn cwpwrdd diogel ar gyfer offer Taser pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae gan bob gorsaf ei man dynodedig ei hun ar gyfer cypyrddau diogel yr offer Taser.
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
a) Mae angen tynnu batrïau’r radios trawsyrru o gefn y radios rhwng shifftiau a’u hailwefru yn yr orsaf wefru gymunol.
b) Mae angen docio’r camerâu corff yn y doc gwefru/lawrlwytho er mwyn iddynt ailwefru rhwng shifftiau.
c) Nid oes angen gwefru offer Taser rhwng shifftiau.
Ymateb 7:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
a) Rhoddir radios trawsyrru penodol i bob unigolyn, felly cyfrifoldeb y swyddog yw sicrhau diogelwch y ddyfais.
b) Rhoddir camerâu corff penodol i bob unigolyn, felly cyfrifoldeb y swyddog yw sicrhau diogelwch y ddyfais.
c) Mae’r swyddog sy’n cario offer Taser yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cael eu dychwelyd yn ddiogel i gwpwrdd diogel yr offer Taser ar ddiwedd y cyfnod ar ddyletswydd. Mae gan ringylliaid yr heddlu sydd ar y rheng flaen ddyletswydd i roi gwybod am unrhyw dor-diogelwch o ran yr offer Taser. Mae gan bob rhanbarth swyddogion heddlu sy’n gweithredu fel pwyntiau cyswllt unigol yr adran (SPOC). Bydd y swyddogion hyn yn gwirio’n rheolaidd bod yr offer Taser yn cael eu diogelu a’u cynnal a’u cadw’n gywir.
Eglurhad o’r esemptiad a gymhwyswyd:
Adran 43(2) – Buddiannau masnachol
“(2) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn niweidio buddiannau masnachol unrhyw unigolyn (gan gynnwys yr awdurdod cyhoeddus sy’n ei chadw), neu’n debygol o wneud hynny.”
Mae hwn yn esemptiad amodol sy’n seiliedig ar ddosbarth. Fel esemptiad sy’n seiliedig ar ddosbarth, mae deddfwyr eisoes wedi derbyn y niwed wrth ryddhau’r dosbarth hwn o wybodaeth. O ganlyniad, nid oes gofyniad i ddangos tystiolaeth o’r niwed wrth ddatgelu gwybodaeth o’r fath. Fodd bynnag, gan fod yr esemptiad yn esemptiad amodol, mae gofyniad i gymhwyso prawf budd y cyhoedd, fel y manylir isod.
Prawf budd y cyhoedd:
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae gofyniad i roi gwell dealltwriaeth i’r cyhoedd o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario. Un o egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw’r angen i fod yn agored ac yn dryloyw. Yn yr achos hwn, mae penderfynu a ydyw Heddlu Dyfed-Powys wedi negodi cyfraddau cystadleuol mewn perthynas â phrynu radios, camerâu corff ac offer Taser o fudd i’r cyhoedd.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Yn yr achos hwn, byddai rhyddhau manylion yn ymwneud â gwerth radios, camerâu corff ac offer Taser yn debygol o niweidio buddiannau masnachol y cyflenwyr presennol drwy effeithio’n andwyol ar eu sefyllfa fargeinio yn ystod trafodaethau contractiol a fyddai’n arwain at ddefnydd llai effeithiol o arian cyhoeddus. Byddai hyn nid yn unig yn niweidio buddiannau masnachol y cwmnïau/cyflenwyr ond hefyd buddiannau masnachol Heddlu Dyfed-Powys, gan y gallai rhyddhau’r wybodaeth hon hefyd effeithio ar gystadleurwydd y contractau a fyddai yn ei dro yn effeithio ar y berthynas sydd gan yr heddlu â’r cwmnïau/cyflenwyr a allai arwain at achos sifil gan drydydd parti.
Prawf cydbwysedd:
Wrth gydbwyso prawf budd y cyhoedd, mae’n rhaid i ni ystyried a ddylai’r wybodaeth gael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus. Mae angen pwyso a mesur manteision ac anfanteision datgelu yn erbyn ei gilydd. Yn yr achos hwn, defnyddir arian cyhoeddus, sydd felly o blaid datgelu, ac y mae angen ei bwyso a’i fesur yn erbyn y difrod a fyddai’n digwydd i unrhyw broses dendro bresennol, neu un yn y dyfodol, a buddiannau masnachol trydydd partïon.
Drwy ryddhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae’n bosibl y bydd buddiannau masnachol busnes ac unigolion yn cael eu peryglu, gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â’r berthynas sydd gan Heddlu Dyfed-Powys â’r cwmni/cyflenwr neu’r unigolion hynny. Felly, mae’r ffactor sydd o blaid peidio â datgelu, sef difrod yn digwydd i unrhyw broses dendro yn y dyfodol a buddiannau masnachol trydydd partïon yn drech na’r ffactor o blaid datgelu, sef gwell dealltwriaeth o sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.
Fel y cyfryw, mae budd y cyhoedd o blaid peidio â datgelu’r wybodaeth ar hyn o bryd. Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 30 Mai 2024)