Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 437/2024
Cais 1 - 5:
1 - Cyfanswm yr arian a wariwyd ar gytundebau peidio â datgelu gwybodaeth gan eich heddlu o fewn y cyfnod penodedig.
2 - Nifer yr unigolion a lofnododd gytundebau peidio â datgelu gwybodaeth gyda'ch heddlu yn ystod y cyfnod penodedig, wedi'u categoreiddio yn ôl:
a. Swyddogion heddlu
b. Aelodau staff sifil
c. Aelodau o'r cyhoedd
Dadansoddwch yr wybodaeth hon yn ôl gwrywod a benywod hefyd os yn bosibl.
3 - Y swm mwyaf o arian a dalwyd i rywun sy'n rhan o gytundeb peidio â datgelu gwybodaeth sengl yn ystod y cyfnod penodedig.
4 - Os nad yw dros y terfyn cost, dadansoddiad o’r rhesymau pam y llofnodwyd cytundebau peidio â datgelu gwybodaeth, wedi’u categoreiddio yn ôl y canlynol:
a. Materion yn ymwneud â chyflogaeth
b. Cwynion yn erbyn yr heddlu
c. Rhesymau eraill (nodwch)
5 - Unrhyw ffioedd cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r cytundebau peidio â datgelu gwybodaeth hyn, os o gwbl.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ac eithrio tâl yn lle rhybudd a thaliadau gwyliau cronedig, cyfanswm y taliadau terfyn oedd:
£78,063.75
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae rhywfaint o’r wybodaeth honno wedi’i heithrio yn rhinwedd Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol (gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r eithriad a gymhwyswyd).
Rôl a rhyw |
Nifer y cytundebau peidio â datgelu a lofnodwyd |
Swyddogion heddlu |
Mae adran 40(2) yn gymwys |
Aelodau staff sifil |
Mae adran 40(2) yn gymwys |
Aelodau o'r cyhoedd |
Mae adran 40(2) yn gymwys |
Eglurhad o'r esemptiad a gymhwyswyd.
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n berthnasol, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno
(b) yn enwi'r esemptiad o dan sylw ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol
Mae adran 40(2) yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu i’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o'r fath. Nid oes gofyniad ychwaith i gynnal prawf lles y cyhoedd.
Mae adran 40(2) yn berthnasol i ddata personol trydydd parti ac mae wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 pe bai datgelu, mewn perthynas â data sy’n destun prosesu gorfodi’r gyfraith, yn torri unrhyw un o’r egwyddorion diogelu data a gynhwysir yn Rhan 3 - Pennod 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018. O dan adran 34 ym Mhennod 2 “Mae’r rheolydd mewn perthynas â data personol yn gyfrifol am, a rhaid iddo allu dangos, cydymffurfiad â” phennod 2. Ni fyddai gwybodaeth o’r fath yn cael ei rhyddhau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai bod cryn fudd i’r cyhoedd. Un o’r prif wahaniaethau rhwng Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018 yw bod unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r parth cyhoeddus, ac nid i’r unigolyn sy’n gwneud cais am yr wybodaeth yn unig, a rhaid cadw hyn mewn cof wrth ddatgelu o dan y Ddeddf.O’r herwydd, mae unrhyw wybodaeth a ryddheir sy’n dynodi unigolyn trwy ryddhau ei ddata personol, hyd yn oed data personol trydydd parti, yn esempt.
Diffinnir data personol o dan adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 fel a ganlyn:
“(2) Ystyr ‘data personol’ yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy (yn ddarostyngedig i is-adran (14)(c)).
(3) Ystyr ‘unigolyn byw adnabyddadwy’ yw unigolyn byw y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn benodol wrth gyfeirio at—
(a) Dynodwr fel enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, neu
(b) Un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolyn.”
Mae gan bob aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai a gyflogir gan yr heddlu, hawl gynhenid i breifatrwydd, ac mae’r hawliau hyn wedi’u diogelu yn rhinwedd y Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni ddylai awdurdod cyhoeddus ymyrryd â’r hawl honno. Mae rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n destun yr esemptiad yn debygol o beryglu’r hawliau hynny.
Deddf Diogelu Data 2018
Rhan 3 – Gorfodi’r Gyfraith – Pennod 2 Egwyddorion Adran 35
Yr egwyddor diogelu data gyntaf:
“(1) Yr egwyddor diogelu data gyntaf yw bod yn rhaid i brosesu data personol at unrhyw un o ddibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.”
Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)
Mae erthygl 5 o’r GDPR – ‘Egwyddorion sy’n ymwneud â phrosesu data personol’ yn darparu fel a ganlyn:
“1. Caiff ‘data personol’
(a) Eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â gwrthrych y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’);
(b) Eu casglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd…
2. Bydd y rheolydd yn gyfrifol am baragraff 1 (‘atebolrwydd’) ac yn gallu dangos ei fod yn cydymffurfio ag ef.”
Ni fyddai Heddlu Dyfed-Powys am ddatgelu unrhyw wybodaeth a allai o bosib adnabod unigolyn. Yn yr achos penodol hwn, gallai rhyddhau rhywfaint o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani arwain at adnabod unigolion. Byddai rhyddhau gwybodaeth o'r fath yn groes uniongyrchol i Egwyddor 1 o'r Ddeddf Diogelu Data ynghylch prosesu gwybodaeth yn deg ac yn gyfreithlon. O ganlyniad, rwy'n fodlon bod eithriad adran 40(2) Gwybodaeth Bersonol yn berthnasol i ryddhau'r wybodaeth.
Mae eithriad adran 40 yn esemptiad ar sail dosbarth. Mae hyn yn golygu bod y deddfwyr wrth ysgrifennu’r ddeddfwriaeth o’r farn y byddai rhyddhau gwybodaeth o’r fath o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn achosi niwed i’r awdurdod cyhoeddus neu i’r unigolyn dan sylw. Nid oes felly unrhyw ofyniad i gynnal prawf niwed mewn perthynas â gwybodaeth o'r fath.
Mae eithriad adran 40 yn rhannol amodol ac yn rhannol absoliwt, yn yr achos presennol byddai'n absoliwt y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn torri deddfwriaeth diogelu data ac felly nid oes unrhyw ofyniad i gynnal prawf lles y cyhoedd.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
£59,396.19
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Materion yn ymwneud ag anghydfod cyflogaeth
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cyfraniad o £350 a TAW at gostau cyfreithiol.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 13 Mai 2024)