Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod rhyddid gwybodaeth: 1035/2023
Cais:
Eglurhad: Wedi’i adrodd drwy 999 a’i gofnodi fel trosedd.
Eglurhad Pellach: Camymddwyn a throseddol ar wahân..
Ymateb:
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Medraf gadarnhau bod y gost o bennu pa un ai a oes unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r cais hwn yn cael ei dal ai beidio’n uwch na’r swm y mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ymateb iddo. Gan hynny, rydym yn atal y cyfan o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod o'r farn bod eithriad Adran 12 (2), y Gost o Gydymffurfio yn fwy na'r Terfyn Priodol, yn gymwys iddo.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (oherwydd bod y wybodaeth yn eithriedig) i roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n: (a) nodi’r ffaith hwnnw,
(b) nodi’r eithriad dan sylw, ac (c) yn nodi (pe na fyddai’n amlwg fel arall) pam fod yr eithriad yn gymwys. Mae’r eithriad canlynol wedi’i weithredu i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Mae’r gost o gydymffurfio’n fwy na’r Terfyn Priodol
Dywed Adran 12(2): “…Nid yw Is-adran (1) yn eithrio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) adran 1(1) oni bai y byddai cost amcangyfrifol cydymffurfio â’r paragraff hwnnw’n fwy na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o bennu pa wybodaeth sy’n cael ei dal, os o gwbl, mewn perthynas â’ch cais uchod yn uwch na’r hyn y mae’n ofynnol inni roi’n gyfreithiol h.y. mae’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth a’i chasglu’n fwy na’r “lefel briodol” fel y nodir yn Rheoliadau Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Addas) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd mwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 6,949 awr) i gydymffurfio â’ch cais.
Cewch hyd i’r rheoliadau ar: https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Cynghorwyd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiynau 3 a 4ch eich cais ar gael ar ffurf sy’n hawdd i’w hadalw.
Cwestiwn 3:
Nid yw’r wybodaeth ar gyfer sefydlu nifer y swyddogion a staff sydd wedi’u hadrodd am gam-drin domestig yn y ffrâm amser a nodwyd ar gael ar ffurf sy’n hawdd ei hadalw. Byddai’r digwyddiadau wedi’u cofnodi ar y system o dan y categori ‘Domestig’. Os, er enghraifft, y mae swyddog/aelod staff De Cymru’n byw yn ardal Dyfed-Powys, byddai’n cael ei gofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys. Yn yr un modd, os oes swyddog/aelod staff Heddlu Dyfed-Powys yn byw mewn ardal blismona gyfagos, byddai’r heddlu hwnnw’n cofnodi’r drosedd/ digwyddiad. Hefyd, weithiau, mae digwyddiadau sy’n ymwneud â swyddogion a staff yn cael eu cyfyngu, felly dim ond y swyddog sy’n ymdrin â’r drosedd/digwyddiad fydd â mynediad i’r cofnod hwnnw.
Mae cyfanswm o 41,489 Cofnod Domestig, gyda 149 o gofnodion â golwg wedi’i gyfyngu y byddai angen ymchwilio iddynt er mwyn sefydlu pa un ai a oes unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais.
Sefydlwyd y byddai’n cymryd 10 munud o leiaf i adolygu pob cofnod. Ceir crynodeb isod o’r amcangyfrif o ran amser:
2020 – 2022 - 41,638 cofnod x 10 munud fesul cofnod = 6,915 awr
Gweler yr adran “Ewyllys da” am ymateb i gwestiwn 3, a allai fod o gymorth ichi.
Cwestiwn 4d:
Er mwyn sefydlu canlyniadau’r treialon, byddai angen ymchwilio i bob rhif trosedd/ digwyddiad. Rhoddir amcangyfrif o’r amser isod:
2017 – 42 cofnod x 8 munud fesul cofnod = 5.6 awr
2018 – 61 cofnod x 8 munud fesul cofnod = 8.1 awr
2019 – 59 cofnod x 8 munud fesul cofnod = 7.9 awr
2020 – 34 cofnod x 8 munud fesul cofnod = 4.5 awr
2021 – 31 cofnod x 8 munud fesul cofnod = 4.1 awr
2022 – 31 cofnod x 8 munud fesul cofnod = 4.1 awr
Cyfanswm yr amser a gymerir i gwblhau cwestiwn 4ch = 34 awr
Cwestiwn 8:
Gellir darparu ymateb o fewn y terfyn amser priodol, h.y. 18 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r CYFAN o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1).
Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.
Sylwer hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nad yw’n dileu hawl yr Heddlu i ddyfynnu eithriadau os ydynt yn berthnasol.
Er bod cost ormodol yn dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fel arwydd o ewyllys da, rwyf wedi darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, a gasglwyd neu a oedd ar gael cyn y sylweddolwyd y byddai’r terfyn ffioedd yn fwy na’r terfyn priodol. Hyderaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawliau cyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd ar gyfer gweddill eich cais.
Ymatebion Ewyllys Da 1:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Rhif |
Math |
Canlyniad |
Rhyw |
Camymddygiad Rhywiol |
|
1 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Na |
|
2 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
3 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Benyw |
Na |
|
4 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Benyw |
Na |
|
5 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Gwryw |
Na |
|
6 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Oedd |
|
7 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
8 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
9 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Gwryw |
Na |
|
10 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
11 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
12 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
13 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
14 |
Gwrandawiad |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Gwryw |
Na |
|
15 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Na |
|
16 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
17 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
18 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Oedd |
|
19 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
20 |
Gwrandawiad |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Benyw |
Na |
|
21 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Gwryw |
Na |
|
22 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Na |
|
23 |
Gwrandawiad |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Gwryw |
Na |
|
24 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Oedd |
Ymateb 2:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Rhif |
Math |
Canlyniad |
Rhyw |
Camymddygiad Rhywiol |
|
1 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Na |
|
2 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
3 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Benyw |
Na |
|
4 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Benyw |
Na |
|
5 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Gwryw |
Na |
|
6 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Oedd |
|
7 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
8 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
9 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Gwryw |
Na |
|
10 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
11 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
12 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
13 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Benyw |
Na |
|
14 |
Gwrandawiad |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Gwryw |
Na |
|
15 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Na |
|
16 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
17 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
18 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Oedd |
|
19 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Na |
|
20 |
Gwrandawiad |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Benyw |
Na |
|
21 |
Cyfarfod |
Rhybudd Ysgrifenedig |
Gwryw |
Na |
|
22 |
Gwrandawiad |
Diswyddiad |
Gwryw |
Na |
|
23 |
Gwrandawiad |
Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol |
Gwryw |
Na |
|
24 |
Gwrandawiad |
Byddai Wedi Cael Ei Ddiswyddo |
Gwryw |
Oedd |
Ymateb 3:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
“Nifer y swyddogion a gafodd eu cyfeirio at yr Adran Safonau Proffesiynol ac a gafodd ei hymchwilio gan yr adran mewn perthynas â honiadau o gam-drin domestig”
Nid yw hyn yn ateb y cais yn gwmws, ond mae’r manylion fel a ganlyn:
|
2020 – 0 |
|
2021 – 4 (1 Fenyw, 3 Gwryw) |
|
2022 – 3 (1 Fenyw, 2 Wryw) |
Ymateb 4:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Adroddiadau am ymosodiad rhywiol a/neu drais rhywiol |
|
|
2017 |
1230 |
|
2018 |
1428 |
|
2019 |
1450 |
|
2020 |
1248 |
|
2021 |
1559 |
|
2022 |
1734 |
|
Nifer yr adroddiadau hynny a arweiniodd at arést |
|
|
2017 |
217 |
|
2018 |
292 |
|
2019 |
331 |
|
2020 |
329 |
|
2021 |
370 |
|
2022 |
515 |
|
Nifer yr adroddiadau hynny a arweiniodd at unigolyn neu unigolion yn cael ei gyhuddo/eu cyhuddo |
|
|
2017 |
42 |
|
2018 |
61 |
|
2019 |
59 |
|
2020 |
34 |
|
2021 |
31 |
|
2022 |
31 |
|
Nifer yr adroddiadau a arweiniodd at dreial |
|
|
2017 |
42 |
|
2018 |
61 |
|
2019 |
59 |
|
2020 |
34 |
|
2021 |
31 |
|
2022 |
31 |
Ymateb 5:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Rydyn ni’n gweithio’n unol ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar Fetio a’r Cod Ymarfer Fetio. Mae’r ddwy ddogfen ar gael i’w darllen ar y rhyngrwyd. Dyma’r dolenni:
Y Cod Ymarfer Fetio - GOV.UK (www.gov.uk)
Cynhelir y gwiriadau gan Swyddogion Fetio yn yr Heddlu, yn unol â’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ar Fetio a’r Cod Ymarfer. Adolygir fetio pan ddaw cliriadau i ben, neu os oes newid o ran swydd neu amgylchiadau. Daw’r dogfennau fetio o’r Coleg Plismona, ac maent yn ddogfennau cenedlaethol.
Ymateb 6:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae cyfanswm o 3 achos wedi’u hadolygu gan Heddlu Dyfed-Powys, a chynhaliwyd hyn gan Uwch Dîm Rheoli’r Adran Safonau Proffesiynol. Cynhaliwyd yr adolygiadau gan ddau wryw ac un fenyw, a gwrywod a gafodd eu hymchwilio. Roedd yr achosion eisoes yn fyw, felly ni chawsant eu hail agor o ganlyniad i adolygiad.
Ymateb 7:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Blwyddyn Ariannol |
Cyfanswm |
|
2017-18 |
£1,185,989.25 |
|
2018-19 |
£1,090,099.40 |
|
2019-20 |
£1,070,627.49 |
|
2020-21 |
£1,183,543.83 |
|
2021-22 |
£1,269,832.09 |
|
2022-23 |
£1,290,569.47 |
Mae cyfanswm o 15 swyddog gwahanol wedi gweithio yn yr Adran Safonau Proffesiynol rhwng 2017 a 2022. O’r rhain, mae 3 yn uniaethu fel gwrywod, a 2 fel benywod. Nid yw 10 wedi dweud pa ryw maen nhw’n uniaethu â hi.
Ymateb 9:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cynhelir Proses Adolygu Arfer Adlewyrchol yn unol â Rheoliadau Ymddygiad yr Heddlu a Chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Cynhelir Proses Adolygu Arfer Adlewyrchol gan oruchwylwyr/rheolwyr llinell. Nid yw’n broses ddisgyblaethol.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 13/05/2024)